Neidio i'r prif gynnwys

Beth sy'n newydd yng Nghaerdydd ar gyfer 2022

Wrth i bartneriaid Caerdydd ar draws y ddinas gyflwyno rhaglen adfer y ddinas, gadewch i ni edrych ymlaen at yr hyn sydd naill ai’n cael ei ddatblygu neu’n agor yn 2022.

Datblygiadau Newydd Cyffrous

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi datblygiadau mawr ar draws y ddinas gan gynnwys;

  • Canolfan y Ddraig Goch / Neuadd y Sir i gynnwys arena x 15 mil, gwesty(au), datblygiad cymysg – cysylltu â Chanolfan y Mileniwm Cymru ynglŷn â digwyddiadau diwylliannol – 2024/5 ymlaen.
  • Adfywio Cwr y Gamlas yn Ffordd Churchill
  • Pentref Chwaraeon Rhyngwladol – gweithgareddau newydd gan gynnwys felodrom, atyniad antur, cylched dolen ar gyfer beicio / rhedeg / llafnau rholio, siop feiciau, weiren wib ac ati. Bydd y Felodrom yn agor yn 2022/3, wedi’i adleoli o Faendy
  • Cwr y Ddinas i’w gwblhau yn 2023

Safle Bragdy Brains i’w ddatblygu’n westy 7 llawr. Mae’r cynlluniau yn cynnwys gwesty 228 ystafell wely, o fewn y datblygiad cymysg mae gofod swyddfa, fflatiau, 50 o farrau a bwytai a champws prifysgol 30,000 troedfedd. Mae Bragdy Brains wedi symud i Fragdy’r Ddraig Bae Caerdydd

Llety Newydd

  • Mae Gwesty’r Parkgate bellach ar agor yn Heol y Porth ger Stadiwm Principality. Mae wedi’i leoli yn yr hen swyddfa bost a’r llys sirol.
  • Cafodd Staybridge Suites eu lansio ym mis Tachwedd, llety â gwasanaeth gan frand IHG. Mae wedi’i leoli yn Noc y Dwyrain, Glanfa’r Iwerydd ac yn cynnig 73 o ystafelloedd un ystafell wely, cegin, ardaloedd byw, mannau gweithio, campfa a siop ar y safle, sef The Pantry. Gall ‘The Den’ gynnal cyfarfodydd am hyd at 10 o bobl.
  • Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu fflatiau â gwasanaeth yn y ddinas, er enghraifft y safle cornel ar Y Brodordy / Heol-y-Frenhines sy’n cynnig 166 o fflatiau. Ym mhen arall Heol y Frenhines mae cynllun i ddatblygu bloc o 140 o fflatiau â gwasanaeth.

Atyniadau

  • Ail-agorodd Techniquest yn hydref 2021 yn swyddogol yn dilyn gwaith adnewyddu ac ymestyn gwerth £5.5m.
  • Mae Distyllfa Castell Hensol yn cymryd archebion ar gyfer grwpiau a digwyddiadau corfforaethol.
  • Ail-agorodd Amgueddfa Caerdydd ym mis Medi.
  • Mae cynlluniau’n cael eu llunio i adfer hen ysbyty colera ar Ynys Echni oddi ar Fae Caerdydd, fel atyniad i ymwelwyr.
  • Agorodd Castell Caerdydd atyniad trochi newydd i’r teulu yn hydref 2021, yn seiliedig ar stori’r arwr Cymreig Llewellyn Bren, a ddisgrifiwyd fel Robin Hood Cymru.

Gweithgareddau

Mae buddsoddiad yn mynd yn ei flaen yng nghronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien gan Ddŵr Cymru. Hwylio, caiacio, canŵio, padl-fyrddio  a chaffis. I fod ar agor 364 diwrnod y flwyddyn.

Bwyd a Diod

  • Mae gan y pobydd Alex Gooch eisoes uned fach yn King’s Yard Pontcanna ond mae bellach wedi agor becws, siop a chaffi llawer mwy sy’n hollol figan yn Heol yr Eglwys Newydd.
  • Mae cwmni lleol sy’n adnabyddus am hyrwyddo bwyd a diod o Gymru, Croeso Pubs, wedi agor Y Cennin Pedr yn 33 Plas Windsor, oddi ar Heol y Frenhines. GM yw Alex Howells. Mae’n cynnwys marchnad Caerdydd ac mae’r cynnyrch lleol, cwrw go iawn yn cynnwys Jemimas Pitchfork o Glamorgan Brewing Co, HPA o Ddyffryn Gwy, Well Drawn Brewing a Tiny Rebel.
  • Nata a Co mae gan y becws a sefydlwyd gan deulu o Bortiwgal ychydig flynyddoedd yn ôl bellach allfeydd gyferbyn â Chastell Caerdydd, Canolfan y Capitol a Clifton Street. Maent yn gwerthu 10 mil o dartennau Portiwgalaidd yr wythnos.
  • Mae La Crème Patisserie sy’n eiddo i Ian a Sian Hindle, wedi agor ei siop gyntaf yn Stryd Fawr Llandaf ar ôl rhedeg busnes teuluol llwyddiannus am 15 o flynyddoedd a mwy.
  • Mae’r Cogydd Tom Simmons yn ennill llawer o wobrau am ei fwyty Thomas ym Mhontcanna. Mae wedi cael sylw yn y cyfryngau cenedlaethol a dyma’r unig fwyty Cymreig yn Rhestr Platinwm y Good Food Guide. Mae’n cefnogi cynhyrchwyr lleol a Chymreig ac mae’n cael ei ddylanwadu gan goginio Ffrengig. Mae gan ei fwyty ystafell fwyta breifat ar y llawr cyntaf x 30. Mae wedi agor becws a chaffi Ground ychydig o ddrysau i lawr y stryd.
  • Mae Heaneys ym Mhontcanna hefyd yn ennill gwobrau ac yn ehangu.
  • Mae Kindle wedi agor yn nhŷ’r hen warden wrth fynedfa Gerddi Sophia. Mae’n cael ei redeg gan y bobl o pizzeria Dusty’s a Nook. Mae’n gwerthu ei hun fel bwyty cynaliadwy sy’n llosgi coed ac mae cynnyrch o Gymru yn cael sylw, gan ganolbwyntio ar fwydlenni tymhorol, platiau bach, gwinoedd naturiol a ‘bwyd tân’.  Mae’n cael cynnyrch gan ffermwyr lleol, ciperiaid, garddwyr. Ceir llawer o seddau yn yr awyr agored – defnyddiwyd fflacs, trawstiau rheilffordd, byrddau sgaffaldau, i greu gardd, hefyd goleuadau ynni effeithlon ac inswleiddio gwlân defaid.
  • Mae man cudd yn yr awyr agored Cwrt Cwr y Castell yn cael ei ddatblygu, rhwng Arcêd y Stryd Fawr ac Arcêd Heol y Dug. Bydd hyn yn cynnwys 8 busnes lletygarwch. Yn agor yn 2022.
  • Par 59 i agor yn Heol Eglwys Fair yng ngwanwyn 2022. Mae’r fenter yn bartneriaeth rhwng cwmni’r pêl-droediwr Gareth Bale, Elevens Group a Depot. Mae’n gysyniad golff bach / bar / bwyty agored gyda 3 x cwrs golff bach 9 twll.
  • Mae Canolfan Siopa Dewi wedi cyflwyno cyfres o 8 o annibynwyr lleol yn y cam cyntaf.
  • Mae Cei’r Fôr-Forwyn yn buddsoddi mewn gwaith adnewyddu sy’n ailgychwyn ym mis Medi 2022 ar ôl arafu oherwydd y pandemig. Mae gofod newydd wedi’i dirlunio o’r enw Sgwâr Tacoma i’w ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau sy’n edrych dros y Bae, goleuadau newydd, cladin newydd i’r bont, amgylchfyd cyhoeddus, seddi newydd, arwyddion newydd.

Cynaliadwyedd

Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn parhau i fod ar flaen y gad yn ei pholisïau cynaliadwyedd. Dyfarnwyd 5ed safle iddi mewn arolwg o brifysgolion y DU gan People and Planet i gydnabod ei arferion cynaliadwy (diwedd 2021).

Dyfarnwyd arian i Gaerdydd yn Dinasoedd Bwyd Cynaliadwy’r DU – dim ond 3 dinas sydd uwchlaw Caerdydd gydag aur. Mae Caerdydd yn gweithio tuag at aur yn 2024

Adeiladu Tîm

Mae Football Fiesta yn cynnig parc pêl-droed Dan Do yng Nghroes Cwrlwys. Mae’r pecynnau’n cynnwys Company Kick Around, Company Challenge ac Ail-Adeiladu timau

Digwyddiadau

Mae Castell Caerdydd wedi bod yn trefnu digwyddiadau ar gyfer 2022 gan gynnwys ei raglen gyngerdd ei hun, Depo yn y Castell a Sinema Luna.