Neidio i'r prif gynnwys

MAE CAERDYDD YN DDINAS GRYNO IAWN AC MAE’N HAWDD FFORIO YNDDD.

AR DROED

Mae Caerdydd yn ddinas gryno a gwastad. Mae rhannau helaeth o ganol y ddinas gan gynnwys y prif strydoedd siopa ar gyfer cerddwyr, felly mae’n hawdd mynd o gwmpas ar droed. Mae hyn hefyd yn wir am ardal glan môr olygfaol Bae Caerdydd, a gallwch gerdded rhwng y ddinas a’r Bae yn rhwydd o fewn tua 15 munud. Beth am fforio un o lwybrau troed di-draffig Caerdydd, gan gynnwys y Daith Taf anhygoel sy’n rhedeg am bron 60 milltir o Fae Caerdydd, yr holl ffordd i Aberhonddu.

AR Y BWS

Mae Bws Caerdydd yn rhedeg system helaeth ledled Caerdydd a’r ardal leol, yn teithio i Benarth a’r Barri. Er mwyn talu gydag arian parod, mae angen y newid cywir arnoch chi. Gallwch hefyd dalu gyda cherdyn digyffwrdd. Mae Stagecoach yn rhedeg gwasanaethau i’r ardaloedd cyfagos fel Caerffili, Tongwynlais a’r Cymoedd. Mae NAT yn rhedeg gwasanaethau yng Nghaerdydd a’r ardaloedd cyfagos, i gael gwybodaeth ar yr holl drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, gweler Traveline Cymru.

AR DRÊN

Mae 20 gorsaf drenau yng Nghaerdydd, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ffurfio rhan o’r rhwydwaith rheilffordd i deithwyr, a elwir yn lleol yn Llinellau’r Cymoedd. Gorsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd a Gorsaf Caerdydd Canolog yw prif hybiau’r ddinas.

Mae trenau rheolaidd yn rhedeg o orsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd i Fae Caerdydd ac arosfannau yn y ddinas gan gynnwys Cathays, Parc Ninian ac Ystum Taf. Mae trenau o orsaf Caerdydd Canolog yn cysylltu â’r Cymoedd a Bro Morgannwg.

AR FEIC

Mae Caerdydd yn wastad ac yn gryno ac mae’n hawdd beicio o’i chwmpas. Dewch o hyd i ddigonedd o raciau beiciau o amgylch y ddinas ac mae lonydd beicio, megis Taith Taf, yn cynnig llwybrau heb draffig.
Mae gan y gwefannau canlynol wybodaeth ddefnyddiol am logi beiciau, llwybrau beicio a diogelwch.

• Cadw Caerdydd i Symud
• Sustrans

BWS DŴR

Mae hon yn ffordd gyffrous o fynd rhwng canol y ddinas a Bae Caerdydd, Mae’r cwch yn gadael Parc Bute, ger Castell Caerdydd a gwesty’r Holiday Inn, ac yn mynd a chi i brif ran Bae Caerdydd. Mae dau gwmni yn rhedeg gwasanaethau:

• Princess Katharine
• Aqua Bus

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch i gael y wybodaeth ddiweddaraf a newyddion y diwydiant gan dîm Cwrdd yng Nghaerdydd…