Neidio i'r prif gynnwys

GWESTY PARKGATE

Croeso i Westy'r Parkgate, cyrchfan orau newydd Caerdydd ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau, a gyflwynir i chi gan y tîm arobryn sy’n gyfrifol am i Westy'r Celtic Manor, a bleidleisiwyd yn ‘Westy Cynadledda Gorau yn y DU’ M&IT am y naw mlynedd diwethaf.

Y gyrchfan steilus hon yng nghanol Caerdydd fydd y lle delfrydol i gwrdd â phobl, cael pryd o fwyd ac ymlacio, a hynny o fewn tafliad carreg i Stadiwm Principality, yr orsaf drenau ganolog a diwylliant caffis bywiog y ddinas.

Yn rhan o’r Celtic Collection dethol, mae gwesty moethus newydd gorau Caerdydd yn adleisio holl geinder a glamor ei leoliad hanesyddol.  Wedi’i leoli yng nghanol y ddinas, mae Gwesty’r Parkgate wedi cyfuno dau adeilad hanesyddol o droad yr 20fed ganrif – yr hen Swyddfa Bost fawreddog a hen Lys Sirol y ddinas.

Gyda’i nodweddion trawiadol a’i hawyrgylch cain, Swît y Postfeistr yw un o’r switiau cynadledda mwyaf yng Nghaerdydd sydd â lle ar gyfer hyd at 432 o bobl ac mae’n lleoliad cofiadwy ar gyfer cyfarfodydd, ciniawau a digwyddiadau mwy o bob math.  Mae’r lle hyblyg yn cynnwys ei ardal bar cyn digwyddiadau breifat ei hun a gellir ei hamrywio i ddarparu’r cefndir perffaith ar gyfer pob achlysur.

Yn glyd ac yn atmosfferig, mae Ystafell y Telegraff yn ystafell fwyta breifat gain sy’n lleoliad gwych ar gyfer cinio hanner dydd a chyda’r nos, cyfarfodydd bwrdd a digwyddiadau unigryw.  Mae’r ystafell hyfryd hon yn adleisio’r holl gynllwynio a drama y mae rhaid bod wedi digwydd yma yn y dyddiau a fu, a ddarperir heddiw gan y gegin theatr agored lle mae gwesteion yn mwynhau gwylio o’r radd flaenaf tra bod cogyddion yn gweithio, gan ddatgelu cyfrinachau’r bwyta moethus y maent ar fin ei fwynhau.

Gyda’i brif leoliad yng nghanol y ddinas yn agos at swyddfeydd corfforaethol mawr a lleoliadau o’r radd flaenaf gan gynnwys Stadiwm Principality, Stadiwm Dinas Caerdydd, Maes Criced Gerddi Sophia, Arena Motorpoint a Chanolfan Mileniwm Cymru, mae Gwesty Parkgate yn cynnig canolfan ddelfrydol ar gyfer teithiau busnes a chymhelliad.

Mae’r ystafelloedd gwely mawr hardd yr un mor ysblennydd ac unigryw â Gwesty’r Parkgate ei hun, gan gynnig cymysgedd steilus o foethusrwydd cyfoes a chlasurol.  O ystafelloedd Uwch moethus i’r Switiau Parkgate tra arbennig, dewch i ymdrochi yn y moethusrwydd gyda steil soffistigedig ac elfennau tra chyfoethog i gyd yn rhan o’r profiad.  Ewch i fwyty a bar yr Ystafell Ddidoli neu ddianc o fwrlwm y ddinas yn y lolfa hyfryd neu’r cwrt awyr agored, lle mae te prynhawn yn bleser braf, mae cinio hamddenol yn brofiad cain, mae swper yn achlysur i’w sawru, a siampên a choctels chwech o’r gloch sy’n rhoi cychwyn ar y nosweithiau hwyr gorau.

I’r rhai sy’n chwilio am ymlacio’n llwyr, fel un o gyrchfannau lles mwyaf unigryw’r ddinas, mae’r Spa yng Ngwesty’r Parkgate yn cynnig lle i ddianc o’r byd, mewn lleoliad boutique trawiadol yn llawn cyfleoedd i ymlacio a dadflino.

Beth bynnag y bo’r achlysur, mae Gwesty’r Parkgate yn cynnig lle cain i gwrdd ar gyfer achlysuron chwaraeon, ciniawa corfforaethol, profiadau sba ac arosiadau dros nos yng nghanol y ddinas.

DIRECTIONS