Neidio i'r prif gynnwys

Arena Newydd Caerdydd

Ionawr 2021


Uwchgynllun Glanfa’r Iwerydd Bae Caerdydd yn cynnwys Arena newydd.

Mae’r uwchgynllun newydd ar gyfer Glanfa’r Iwerydd yn dangos sut caiff 30 erw o dir ei drawsnewid yn ddatblygiad deinamig dan arweiniad Arena dan do newydd ar gyfer 15,000 o bobl a fydd yn agor yn 2024.

Mae safle’r uwchgynllun yn ymestyn o Neuadd y Sir Caerdydd i Ganolfan y Ddraig Goch i Lawr at Rodfa Lloyd George ac at y Flourish lle mae Plas Bute yn cwrdd â Chanolfan y Mileniwm a Plass Roald Dahl.

Yn ogystal â buddsoddiad £150m mewn Arena newydd, mae’r datblygiad yn cynnwys:

  • Datblygiad defnydd cymysg newydd yn lle Canolfan y Ddraig Goch, a fydd yn cynnwys darpariaeth hamdden a lletygarwch;
  • Atyniad newydd ‘Dyma Gymru’ i ymwelwyr sy’n pasio drwodd;
  • Adeiladau diwylliannol newydd ger Canolfan Mileniwm Cymru. Mae’r cynigion yn cynnwys Stiwdio Gynhyrchu newydd ac amgueddfa gelf fodern newydd fawr yn gyfagos â Chanolfan Mileniwm Cymru.
  • Sgwâr cyhoeddus 10,000 troedfedd sgwâr newydd a gofod digwyddiadau gydag atyniad am ddim i blant;
  • Gwesty pedair seren 150 ystafell wely newydd;
  • Maes parcio aml-lawr newydd.

Bydd gwesty Travelodge ar Hemingway Road yn cael ei adleoli i ddarparu gwesty fel rhan o ddatblygiad yr Arena. Yn ogystal bydd gwesty 150 gwely, 4 seren newydd yn cael ei adeiladu o flaen y gofod digwyddiadau newydd.

Meddai Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: “I ddinasoedd llwyddiannus, nid un digwyddiad yw adfywio, mae’n broses barhaus. Helpodd ailddatblygu Bae Caerdydd dri degawd yn ôl i sefydlu Caerdydd fel Prifddinas Ewropeaidd ddeinamig, a heddiw cyflwynom weledigaeth gyffrous ar gyfer cam nesaf yr ailddatblygiad hwnnw.

Esboniodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygiad, y Cynghorydd Russell Goodway: “Strategaeth y ddinas yw sefydlu Arena Caerdydd fel arena safon uchaf y DU.”

“Bydd y datblygiad hwn yn sicrhau y gall Caerdydd ddod â digwyddiadau a chynadleddau i’r ddinas na allwn ar hyn o bryd, a bydd hynny yn ein helpu i gystadlu â dinasoedd fel Manceinion, Birmingham a Lerpwl.

“Rydym hefyd wedi gosod y targed i ni’n hunain o greu’r ganolfan drefol newydd hon yn gwbl garbon niwtral, gyda gwres yn cael ei ddarparu i’r arena dan do newydd drwy Rwydwaith Gwres Ardal newydd Caerdydd.”

“Bydd yr uwchgynllun newydd yn cyd-fynd â gwelliannau arfaethedig i’r rhwydwaith rheilffyrdd fel rhan o’r prosiect METRO a arweinir gan Lywodraeth Cymru, a bydd yn dod â llwybrau beicio a cherdded gwell ar Rodfa Lloyd George ac ar draws y Bae”.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch i gael y wybodaeth ddiweddaraf a newyddion y diwydiant gan dîm Cwrdd yng Nghaerdydd…