Neidio i'r prif gynnwys

Pasture Yw'r Bwyty Annibynnol Cyntaf Yng Nghymru I Ennill Sgôr 3* Gan Y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy

Dydd Llun, 20 Tachwedd 2023 · Bwyty Pasture


 

Ethos y grŵp bwytai Pasture yw defnyddio cynhyrchion lleol, hyrwyddo bwyd yn ei dymor a dileu gwastraff bwyd ac o ganlyniad i hynny mae wedi ennill Gradd 3* ‘Food Made Good’ y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy (CBC) – sy’n golygu mai dyma’r bwyty annibynnol cyntaf yng Nghymru i gael yr achrediad arbennig hwn*.

Mae bwytai Pasture yn ddathliad o goginio dros dân a chynhwysion lleol anhygoel; mae’r cigyddion mewnol yn casglu ac yn paratoi’r cig gorau o ffermydd lleol dethol sy’n magu gwartheg wedi’u pesgi ar borfa, ac mae tîm o gogyddion yn ei ddefnyddio i goginio prydau modern sy’n newid gyda’r tymhorau.

Sam Elliott yw’r Cogydd/Perchennog 35 oed y tu ôl i’r grŵp Bwytai Pasture – sy’n cynnwys dau fwyty ym Mryste (Pasture a agorodd yn 2018, a Radius a agorodd y llynedd); a dau fwyty yng Nghaerdydd ( Pasture arall a agorodd yn 2020, a Parallel a agorodd yn gynharach y flwyddyn hon). Yn 2024, bydd Sam hefyd yn agor Prime by Pasture; sef siop gig, delicatessen, ysgol goginio a siop gwerthu byrgers yn Redcliffe Quarter, Bryste; a Pasture Birmingham yn Fifteen Colmore Row yng nghanol dinas Birmingham.

 

Ers i Sam sefydlu Pasture yn 2018, mae bob amser wedi bod yn frwd dros weithio’n agos gyda chyflenwyr lleol i weithredu mewn ffordd gyfrifol.  Dan ffyrdd Sam o weithio, mae Pasture wedi cael sgôr eithriadol o uchel ym mhob un o’r tri chategori a aseswyd gan y CBC ar gyfer y sgôr ‘Food Made Good’ – yr amgylchedd, ffynonellau a chymdeithas.

  • Yr Amgylchedd: Cafodd Pasture ei sgôr uchaf yn y categori hwn a soniodd y CBC am ‘gamau helaeth’ y grŵp i fynd i’r afael â gwastraff bwyd – gan gynnwys compostio’r holl wastraff bwyd anfwytadwy mewn treuliwr anaerobig ar y safle. Mae’r staff hefyd wedi’u hyfforddi ar atal gwastraff bwyd, mae’r holl olew coginio a ddefnyddir yn cael ei ailgylchu, mae’r holl siarcol coginio yn dod o ffynonellau cynaliadwy, ac mae’r cyflenwyr yn cael eu dewis yn ofalus am eu hymrwymiadau eu hunain i arferion amgylcheddol gynaliadwy.
  • Ffynonellau: Rhagorodd Pasture yn y categori hwn trwy gynnal perthnasau uniongyrchol a thryloyw â’i gyflenwyr lleol, ar raddfa fach. Yn ogystal, mae Pasture yn rhedeg ei fferm ei hun, Buttercliffe Farm ychydig y tu allan i Fryste, lle mae cynnyrch treftadaeth yn cael ei dyfu ar gyfer y bwytai, a lle y gellir mynd â’r staff i ddysgu am darddiad a bwyd tymhorol.
  • Cymdeithas: Cafodd Pasture ei ganmol am ddangos ei ymrwymiad i gymdeithas ehangach drwy weithio gyda chyflenwyr sy’n rhannu ei werthoedd yn unig, a thrwy roi elw o werthiannau dŵr wedi’i hidlo i elusennau lleol sy’n mynd i’r afael â digartrefedd a materion iechyd meddwl.

Esboniodd Sam, “Fy ngweledigaeth ar gyfer Pasture oedd hyrwyddo’r cynnyrch gorau posibl a wnaed yn y ffordd orau bosibl, felly mae’n wych bod ein hymdrechion wedi’u cydnabod yn swyddogol. Mae’r Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy yn dyfarnu ei sgôr Food Made Good i fwytai sy’n bodloni set benodol iawn o feini prawf, ac rydym yn falch iawn ein bod wedi cyflawni’r sgôr uchaf sef tair seren. Mae’n golygu’r byd i’r tîm cyfan, sydd i gyd yn gweithio’n eithriadol o galed i wneud Pasture beth ydyw.”

 

Dywedodd Pennaeth Diwylliant a Chynaliadwyedd Pasture, Alec WilkinsonRoedd cyflawni’r sgôr hon yn golygu edrych ar ein holl ddulliau gweithredu’n fanwl – ond trwy broses mor drwyadl, rydym wedi gallu dangos yn gywir dystiolaeth o’n hymrwymiad i gynaliadwyedd am y tro cyntaf. Mae hyn hefyd wedi cael sgil-effaith ar ein staff sy’n dod atom gyda syniadau newydd – a hefyd ar y cynhyrchwyr yn ein cadwyn gyflenwi; mae llawer o’r rhai rydym yn gweithio gyda nhw nawr yn edrych ar ffyrdd o wella, ffurfioli neu gyfleu eu camau gweithredu a’u hymrwymiadau cynaliadwy eu hunain wrth symud ymlaen, sy’n wych i’w weld.”

Dywedodd Juliane Caillouette Noble, Rheolwr Gyfarwyddwr Cymdeithas Bwytai CynaliadwyMae’r Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy yn falch iawn o ddyfarnu sgôr tair seren i Pasture yn Safon Food Made Good 2023. Mae ein hardystiad cynhwysfawr, trylwyr a chyfannol yn asesu cynaliadwyedd busnesau lletygarwch ar draws eu gweithrediadau cyfan, o ddefnyddio ffynonellau tryloyw a chyfrifol i’r diwylliant y maent yn ei greu ar gyfer eu staff. Mae achrediad tair seren yn gyflawniad gwirioneddol anhygoel ac yn arwydd o ymroddiad rhagorol i gynaliadwyedd gan y tîm cyfan yn Pasture.”

Pearl Costello yw’r Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn Bwyd Caerdydd – partneriaeth fwyd y ddinas sy’n tyfu’n gyflym, a’r sefydliad sy’n gyfrifol am yr ymgyrch i wneud Caerdydd yn un o’r lleoedd bwyd mwyaf cynaliadwy yn y DU erbyn 2024 (dysgwch fwy). Ychwanegodd: “Mae’n hyfryd bod y bwyty annibynnol cyntaf yng Nghymru i gael achrediad 3* gan y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy wedi’i leoli yma yn y brifddinas. Mae gan Gaerdydd ‘fudiad bwyd da’ cynyddol a’r gobaith yw y bydd mwy o fwytai lleol yn dilyn esiampl Pasture yn fuan.”