Neidio i'r prif gynnwys

Dewi Sant Caerdydd yn Lansio eu Hadroddiad Effaith Economaidd, Cymdeithasol ac Amgylcheddol Cyntaf

Dydd Llun, 27 Tachwedd 2023 · Dewi Sant Caerdydd


 

Crëwyd £690,000 mewn gwerth cymdeithasol ar gyfer y gymuned leol.

Heddiw, mae Dewi Sant Caerdydd wedi cyhoeddi ei Adroddiad Effaith cyntaf sy’n amlinellu sut mae’r ganolfan siopa wedi cyfrannu at lwyddiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cymuned De Cymru.

Mae’r gyrchfan fanwerthu a hamdden yn gartref i fwy na 180 o fanwerthwyr a bwytai sy’n cynnwys stecendy Gaucho cyntaf Cymru, siop gynaliadwy Ethical Boutique sy’n hyfforddi’r rhai sy’n bwriadu mynd i mewn i’r diwydiant lletygarwch trwy ei raglen Conscious Coffee, ynghyd ag amrywiaeth o frandiau cenedlaethol ac annibynnol.

Fel rhan bwysig o gymuned Caerdydd, mae effaith gadarnhaol y ganolfan yn parhau i gael ei theimlo y tu hwnt i’w rôl fel cyrchfan siopa a hamdden yn unig – ers 2019, mae Dewi Sant wedi creu £690,000 mewn gwerth cymdeithasol i’r gymuned leol yng Nghaerdydd.
Mae Dewi Sant yn parhau i chwarae rhan weithredol wrth helpu i lunio economi leol gref – mae’n cyflogi dros 1,553 o bobl ar draws ei chyfleusterau manwerthu a hamdden.

Fel rhan o ymrwymiad parhaus y ganolfan i gefnogi’r gymuned leol, grymuso mentrau lleol a meithrin newid cadarnhaol yn yr ardal – wedi’i ariannu gan berchennog Dewi Sant, Landsec – mae’r gyrchfan fanwerthu wedi lansio Landsec Futures yn ddiweddar, cronfa effaith gymdeithasol gwerth £20m sydd â’r nod o wella gwerth cymdeithasol i’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

Yn ogystal â bwrsariaethau i fyfyrwyr mewn addysg uwch, interniaethau a grantiau cymunedol, bydd menter Landsec Futures hefyd yn darparu partneriaethau cyflogadwyedd tair blynedd ag elusennau lleol, gan gynnwys rhaglenni gydag Ahead Partnership i gefnogi pobl o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol i ddod o hyd i gyflogaeth, a chyda Safe Foundation i ddarparu cyfleoedd datblygu sy’n helpu pobl i fynd i fyd gwaith. Hyd yma, mae dros 1,300 o unigolion wedi cael eu cefnogi trwy raglenni addysg a chyflogaeth Dewi Sant.

Ymhlith ymrwymiadau’r ganolfan i leihau’r effaith y mae’n ei chael ar yr amgylchedd, mae Dewi Sant wedi ymuno â mwy na 1,000 o fusnesau ledled y byd ac wedi ymrwymo i fod yn fusnes carbon sero-net erbyn 2040 ac mae eisoes wedi cyflawni gostyngiad mewn dwysedd ynni o 4% ers 2019. Mae’r mentrau yn cynnwys systemau goleuadau ynni-effeithlon, rhaglenni rheoli gwastraff a mesurau cadwraeth dŵr. Yn ogystal, mae 100% o drydan y ganolfan yn dod o ffynonellau adnewyddadwy.

Yn fwy na hynny, datgelodd ymchwil newydd gan Landsec y gallai brandiau mewn cyrchfan manwerthu cynaliadwy gynyddu hyd at 13% dros 10 mlynedd, o’u cymharu â’r rhai mewn cyrchfan fanwerthu draddodiadol. Yn gyffredinol, gallai nifer yr ymwelwyr ar gyfer cyrchfannau manwerthu cynaliadwy gynyddu 6%, gan arwain at hwb posibl o hyd at £100m ar gyfer economïau lleol.

Dywedodd Helen Morgan, Cyfarwyddwr Canolfan Dewi Sant: “Fel canolfan siopa, rydym yn ymdrechu’n gyson i sicrhau ein bod yn darparu dyfodol cynaliadwy sy’n bodloni disgwyliadau ein cwsmeriaid ac yn creu gwerth ychwanegol i’n cymuned leol, ein cwsmeriaid, ein cydweithwyr a’n partneriaid.

“Mae ein diben wrth wraidd popeth a wnawn, yn y ffordd rydym yn creu lleoedd cynaliadwy, yn gwireddu potensial ac yn gwasanaethu cymuned fywiog.”