Neidio i'r prif gynnwys

Caerdydd yn Syfrdanu gyda Pharciau a Mannau Gwyrdd

Rhagfyr 2020


Wrth i’r gwynt godi a dail yr Hydref yn cwympo, mae’n wych neilltuo amser i grwydro o gwmpas parciau niferus Caerdydd, gweld y digonedd o fannau agored, mwynhau’r dŵr sy’n llifo a gwrando ar y dail yn siffrwd.

Fel ein hymwelwyr niferus eraill, gall cynrychiolwyr digwyddiadau ymhyfrydu’n fawr yn ein cynnig “gwyrdd”, gan alluogi eu hunain i ymdrochi ym myd natur drwy gydol eu hamser yma ym mhrifddinas Cymru.  P’un a ydynt yn cerdded ar hyd y strydoedd a choed ar bob ochr neu’n mynd i un o’n parciau, mae’r ddinas yn llawn mannau tawel er mwyn ailwefru neu fyfyrio fel rhan o’u hymweliad.

Yn arbennig mae Parc Bute, un o’n mannau gwyrdd mwyaf, yn amlygu’r cyfle i “ymdrochi yn y goedwig”.  Mae hyn pan fydd ymwelwyr yn treulio amser wedi ymgolli ym myd natur, yn cysylltu â’r byd naturiol gan ddefnyddio eu synhwyrau. O arogli’r blodau a gwylio lliwiau’r coed sy’n newid i glywed cân yr adar a theimlo’r awel ar eu croen – mae’n cynnig gwir ymdeimlad o les.

Yn wir, cymaint mae Caerdydd yn llawn natur a mannau agored, mae 14 o’n parciau a’n mannau agored wedi ennill Baneri Gwyrdd, yr acolâd Ewropeaidd a chwenychir sy’n adlewyrchu bioamrywiaeth, cyfranogiad cymunedol, cynnal a chadw, cyflwyniad, glendid a rheoli amgylcheddol.

Cafodd y 14 o Faneri eu rhoi i: Mae Parc Bute, Morglawdd Bae Caerdydd, Gwlyptiroedd Bae Caerdydd, Mynwent Cathays, Ynys Echni, Gerddi’r Faenor, Parc y Mynydd Bychan, Parc Cefn Onn, Parc y Rhath, Gerddi Bryn Rhymni, Mynwent Draenen Pen-y-graig a Pharc Victoria oll wedi llwyddo i gadw eu dyfarniadau presennol.

Yn rhy aml o lawer pan fyddwn yn meddwl am gynaliadwyedd ein digwyddiadau byddwn yn canolbwyntio ar y microcosm, sef lleoliad, bwyd a gofynion penodol digwyddiad heb feddwl ar lefel macro.  Mae deilliannau dysgu, cadw gwybodaeth ac adenillion ar fuddsoddiad y trefnydd i gyd yn cynyddu yn unol â lles gwell y cynrychiolwyr.  Pa ffordd well o gefnogi hynny na thrwy gyrchfan sy’n galluogi’r meddwl i redeg yn rhydd a’r synhwyrau i hedfan?

Gall Cwrdd yng Nghaerdydd drefnu teithiau cynrychiolwyr er mwyn rhoi cyfle i ailwefru ac ailffocysu yn y ddinas neu yn y Bae.

Mae pob lleoliad yng Nghaerdydd sy’n cynnal digwyddiadau busnes yn paratoi at ailagor ac yn aros i dderbyn y map ffyrdd i agor gan Lywodraeth Cymru. Yn y cyfamser mae gwestai a lleoliadau lletygarwch yn cymryd rhan yn y cynllun ‘Good to Go’ ac maent wedi bod yn gweithio fel partneriaeth er mwyn sicrhau bod Caerdydd yn ddiogel rhag Covid i bob ymwelydd â’r ddinas.

Rhagor o wybodaeth ar gael yma.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch i gael y wybodaeth ddiweddaraf a newyddion y diwydiant gan dîm Cwrdd yng Nghaerdydd…