Neidio i'r prif gynnwys

Gweithgareddau o Fewn Tafliad Carreg

15 Hydref 2019


Gall cynadleddwyr sy’n mynychu cynhadledd yn un o leoliadau Caerdydd ymlacio a chael saib yn ddigon rhwydd, ac o fewn tafliad carreg.

Gall cynadleddwyr gael hoe yng nghanol dinas Caerdydd a mwynhau profiad ‘ymdrochi byd natur’ fel rhan o’u rhaglen gynadledda. Wedi’i leoli yng nghanol y ddinas, drws nesaf i Gastell Caerdydd, mae Parc Bute ychydig funudau ar droed o leoliadau cynadledda a gwestai Caerdydd.

Adfywio, Adnewyddu, Ailgysylltu

Ymwelwch â Pharc Bute i fwynhau profiad ‘ymdrochi byd natur’ neu shinrin-yoku. Treuliwch amser yn ymgolli mewn natur, gan gysylltu â’r byd naturiol o’n cwmpas, gan ddefnyddio ein synhwyrau. Aroglwch y blodau, rhyfeddwch at liwiau newidiol y coed, gwyliwch y cymylau’n symud drwy’r awyr, clywch gân yr adar a theimlwch yr awel ar eich croen. Mae bod yn agosach at natur yn cael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd a’n lles. Dewch i fwynhau taith gerdded hawdd yng nghalon gwyrdd y ddinas.

Mae Adfywio, Adnewyddu, Ailgysylltu yn ddim ond un enghraifft o daith gerdded ar thema ym Mharc Bute y gellir ei phecynnu ar gyfer cynadleddwyr. Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys;

Taith Gerdded yr Ardd Goed

Mwynhewch daith gerdded dymhorol o amgylch Parc Bute a darganfyddwch yr amrywiaeth hardd o goed sydd yma, gan gynnwys y 41 o ‘bencamp-goed’ sydd yn y parc. Pencamp-goed yw’r coed mwyaf o’u math yn y DU. Mae gan Barc Bute fwy o bencamp-goed nag unrhyw barc cyhoeddus arall yn y DU. Gall cynadleddwyr hefyd glywed am dreftadaeth ddiddorol y parc ger Castell Caerdydd.

Gwenyn Mêl Parc Bute – Cewch gwrdd â’r gwenynwyr, dysgu stori gwenyn mêl Parc Bute a gweld y gwenyn wrth eu gwaith. Hyd safonol taith gerdded yw 45 munud-1 awr, ond gellir teilwra teithiau cerdded i anghenion cleientiaid.

Eglurodd Faye Tanner, Rheolwr Partneriaethau Masnachol Cwrdd yng Nghaerdydd; “Gall trefnwyr cynadleddau fanteisio ar leoliad prifddinas ond ei gyfuno â phrofiad byd natur i helpu cynadleddwyr i fod yn fwy cynhyrchiol”.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch i gael y wybodaeth ddiweddaraf a newyddion y diwydiant gan dîm Cwrdd yng Nghaerdydd…