Neidio i'r prif gynnwys

Stadia ac Arenâu Caerdydd

20 Hydref 2019


Mae casgliad Caerdydd o stadia ac arenâu yn cynnig amrywiaeth o leoliadau ardderchog ar gyfer digwyddiadau corfforaethol.

Mae gan Gaerdydd brofiad o reoli digwyddiadau busnes mawr a digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol sy’n denu miloedd ar filoedd o bobl. Mae ganddi beth sydd ei angen i ddelio â niferoedd mawr a’r gwaith logisteg a diogelwch cysylltiedig. Mae Caerdydd yn ddinas fach sy’n adnabyddus am ‘bwnio’n uwch na’i phwysau’ ac mae’n cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf yn bennaf oherwydd ei statws fel Prifddinas Cymru a chartref Senedd Cymru.

Mae dewis Caerdydd o leoliadau mwy o faint yn drawiadol ac fe’i cefnogir gan stoc gwely o 8,000+, y mae’r mwyafrif o fewn pellter cerdded o’r lleoliadau a’r canolfannau cymdeithasol.

Y lleoliad mwyaf yw Stadiwm Principality yng nghanol y ddinas. Cyfeirir at y stadiwm eiconig hwn yn aml fel ‘stadiwm rygbi gorau’r byd’, gyda tho symudol a 74,500 o seddi mewn powlen 11,000m2, sy’n creu’r arena dan do fwyaf yn Ewrop. Mae chwe lleoliad i hyd at 300 o bobl mewn arddull theatr neu fwyta a 124 o lolfeydd moethus. Mae’r cae dan do wedi’i ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau pwrpasol; cynhaliodd trefnwyr y Cwpan Ryder ginio dathlu a chyngerdd i 1000 arno.

Cynhaliodd y Stadiwm Principality Ffeinal Cynghrair y Pencampwyr 2017, ac mae hefyd wedi cynnal chwe rownd derfynol Cwpan FA Lloegr, 11 gêm Bêl-droed Olympaidd, tri thwrnamaint Cwpan Rygbi’r Byd, pum digwyddiad bocsio mawr, 16 Pencampwriaeth Speedway Prydain a chyngherddau gan restr hir o artistiaid cerddoriaeth byd-enwog. Gall cynrychiolwyr fynd ar daith y tu ôl i’r llenni o gwmpas y stadiwm a gweld ystafelloedd newid y chwaraewyr, yr ystafell reoli a dysgu sut mae’r gofalwr yn gofalu am y cae neu sut mae’r Hebog yn dychryn y colomennod bob bore. Y Stadiwm hwn oedd y stadiwm digwyddiadau cynaliadwy cyntaf yn y DU.

Mae Stadiwm Caerdydd Gerddi Sophia yn adnabyddus yn rhyngwladol am gynnal digwyddiadau criced fel Cyfres y Lludw a gemau Cwpan Criced y Byd ICC. Mae amrywiaeth ardderchog o fannau cyfarfod a lletygarwch, gan gynnwys gofod mawr dan do sy’n lletya 800 mewn arddull theatr neu 300 yn bwyta. Mae taith y tu ôl i’r llenni ar gael sy’n cynnwys Amgueddfa Criced Cymru.

Mae Stadiwm Dinas Caerdydd, sy’n gartref i Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, yn dal 30,000 ac yn cynnwys dwy lolfa fawr o dros 700m2 ynghyd â nifer o ystafelloedd llai ar gyfer digwyddiadau corfforaethol.

Ger y Stadiwm Principality mae Parc yr Arfau, un o eiconau Caerdydd. Heddiw mae’n gartref i Gleision Caerdydd ac yn cynnig gofod lletygarwch corfforaethol a gofod cyfarfod/digwyddiadau ar gyfer hyd at 400.

Mae Arena Motorpoint Caerdydd yn cynnig dros 4,000 metr sgwâr o ofod digwyddiadau, sy’n berffaith ar gyfer arddangosfeydd, gyda chapasiti o 4,994 ar gyfer cynadleddau gydag ardaloedd i is-grwpiau.

Efallai nad llawr sglefrio yw’r peth cyntaf sy’n dod i’r meddwl wrth drefnu digwyddiad, ond mae Arena Iâ Viola ym Mae Caerdydd yn cynnig capasiti eistedd o 3,800. Mae cartref y pencampwyr hoci iâ The Cardiff Devils wedi croesawu digwyddiadau bocsio a Noson gydag Anthony Joshua gyda 700 o westeion yn bwyta, yn ogystal â chyfarfodydd.

Eglurodd Faye Tanner, Rheolwr Partneriaethau Masnachol a phennaeth Swyddfa Confensiwn Caerdydd; “Mae gan Gaerdydd brofiad o gynnal digwyddiadau mawr gyda nifer o leoliadau sefydledig ag enw da. Gwasanaeth canfod lleoliad a chymorth Swyddfa Confensiwn Caerdydd, sydd am ddim, yw’r pwynt cyswllt cyntaf wrth drefnu digwyddiad yng Nghaerdydd”.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch i gael y wybodaeth ddiweddaraf a newyddion y diwydiant gan dîm Cwrdd yng Nghaerdydd…