Yn ei diroedd preifat ei hun, funudau yn unig o ganol y ddinas, codwyd yr adeilad rhestredig Gradd II hwn yn wreiddiol yng nghanol y 1890au ar gyfer James Howell, sefydlydd y siop adrannol enwog yng nghanol y ddinas. Fel hen gartref Arglwydd Faer Caerdydd, mae’r Plasty’n parhau i gynnal llawer o ddigwyddiadau dinesig, ac mae ar gael i’w logi’n breifat.
Mae’r tu mewn yn dal i gynnwys llawer o’r nodweddion gwreiddiol, yn benodol y defnydd helaeth o waith pren cerfiedig a brith ar y grisiau cain, y lle tân a’r ffenestri lliw hardd. Ar y llawr cyntaf mae fflat breifat yr Arglwydd Faer a phedair ystafell wely en-suite sydd wedi croesawu ymwelwyr enwog gan gynnwys y cyn-brif weinidogion, David Lloyd George a Winston Churchill, y gantores opera, Adelina Patti a hyd yn oed y Brenin Siôr V.
LLOGI YSTAFELL
Layout | Capacity |
Theatre | 65 |
Banquet | – |
Boardroom | 50 |
Cabaret | – |
Layout | Capacity |
Theatre | 30 |
Banquet | – |
Boardroom | – |
Cabaret | – |

Archebwch eich te prynhawn yn y Plasty am brofiad arbennig iawn.
Ffôn
029 2087 2092
E-bost
enquiries@meetincardiff.com
Hire this Venue...
Would you like to hire meeting or function rooms at this venue? Please fill in the form below with your requirements and a member of the team will be in touch as soon as possible.