Neidio i'r prif gynnwys

SAIN FFAGAN AMGUEDDFA WERIN CYMRU

Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yw atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru, sy'n sefyll ar dir castell godidog ar gyrion Caerdydd.

LLEOLIAD MEWN NIFEROEDD

10

Ystafelloedd Cyfarfod

450

Capasiti Gwledd Mwyaf

500

Capasiti Theatr Mwyaf

Cafodd Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan fuddsoddiad mawr yn ei hardaloedd arddangos yn ystod y blynyddoedd diwethaf a arweiniodd at ennill wobr Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2019.

Mae’r amgueddfa’n cynnig amrywiaeth o leoedd unigryw a gwahanol iawn ar un safle sydd ar gael ar gyfer digwyddiadau busnes.  Mae’n gartref i dros 40 o adeiladau hanesyddol, wedi’u symud fesul carreg o wahanol rannau o Gymru a nawr yn sefyll o fewn parcdir helaeth o amgylch yr amgueddfa. Maent yn adrodd hanes sut y bu’r Cymry’n byw drwy’r oesoedd. Mae rhai adeiladau hanesyddol yn cynnig gofod digwyddiadau fel hen neuadd ddawns o’r 1920au – mae Sefydliad y Gweithwyr Oakdale yn cynnig lle hyblyg sy’n cynnwys Ystafell Ddarllen, Ystafell Gyfarfod a Neuadd Gyngerdd gyda llawr crog ar gyfer dawnsio a llwyfan ar gyfer adloniant. Mae yna hefyd fannau llai fel yr Ystafell Bwyllgora sy’n ystafell olau, bwrpasol sy’n addas ar gyfer hyd at 20 o fynychwyr.

Mae’r safle’n cynnwys 100 erw o dir gwledig y tu allan i ganol dinas Caerdydd ac o fewn y tiroedd mae Castell Sain Ffagan, maenordy o ddiwedd yr 16eg ganrif a roddwyd yn rhodd gan Iarll Plymouth.  Mae’n llawn o dapestrïau moethus, dodrefn wedi’u brodio, dodrefn rhosbren a derw ysblennydd a phaentiadau olew anhygoel.  Mae’r ardaloedd arddangos hefyd yn cynnig lleoedd ar gyfer digwyddiadau; derbynfeydd, ciniawa a chyfarfodydd.

Ceir gerddi ffurfiol hefyd; Yr Ardd Eidalaidd a’r Ardd Rosod Edwardaidd er enghraifft, sy’n cynnig lleoliad ar gyfer derbyniad.

LLOGI YSTAFELL

Neuadd Oakdale
Cynllun Capasiti
Theatr 120
Gwledd 90
Ystafell Fwrdd 30
Cabaret 30
Committee Room
Cynllun Capasiti
Theatr 120
Gwledd 90
Ystafell Fwrdd 30
Cabaret 30
Castle Dining Room
Cynllun Capasiti
Theatr 15
Gwledd 40
Ystafell Fwrdd 15
Cabaret n/a
Castle Buttery
Cynllun Capasiti
Theatr n/a
Gwledd 40
Ystafell Fwrdd 15
Cabaret n/a

DIDDORDEB?

Ffôn

029 2087 2092

E-bost

ymholiadau@meetincardiff.com

Llogi'r Lleoliad Hwn...

Hoffech chi logi ystafelloedd cyfarfod neu ofod digwyddiadau yn y lleoliad hwn? Llenwch y ffurflen isod gyda'ch gofynion a bydd aelod o'r tîm mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl.