Cafodd Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan fuddsoddiad mawr yn ei hardaloedd arddangos yn ystod y blynyddoedd diwethaf a arweiniodd at ennill wobr Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2019.
Mae’r amgueddfa’n cynnig amrywiaeth o leoedd unigryw a gwahanol iawn ar un safle sydd ar gael ar gyfer digwyddiadau busnes. Mae’n gartref i dros 40 o adeiladau hanesyddol, wedi’u symud fesul carreg o wahanol rannau o Gymru a nawr yn sefyll o fewn parcdir helaeth o amgylch yr amgueddfa. Maent yn adrodd hanes sut y bu’r Cymry’n byw drwy’r oesoedd. Mae rhai adeiladau hanesyddol yn cynnig gofod digwyddiadau fel hen neuadd ddawns o’r 1920au – mae Sefydliad y Gweithwyr Oakdale yn cynnig lle hyblyg sy’n cynnwys Ystafell Ddarllen, Ystafell Gyfarfod a Neuadd Gyngerdd gyda llawr crog ar gyfer dawnsio a llwyfan ar gyfer adloniant. Mae yna hefyd fannau llai fel yr Ystafell Bwyllgora sy’n ystafell olau, bwrpasol sy’n addas ar gyfer hyd at 20 o fynychwyr.
Mae’r safle’n cynnwys 100 erw o dir gwledig y tu allan i ganol dinas Caerdydd ac o fewn y tiroedd mae Castell Sain Ffagan, maenordy o ddiwedd yr 16eg ganrif a roddwyd yn rhodd gan Iarll Plymouth. Mae’n llawn o dapestrïau moethus, dodrefn wedi’u brodio, dodrefn rhosbren a derw ysblennydd a phaentiadau olew anhygoel. Mae’r ardaloedd arddangos hefyd yn cynnig lleoedd ar gyfer digwyddiadau; derbynfeydd, ciniawa a chyfarfodydd.
Ceir gerddi ffurfiol hefyd; Yr Ardd Eidalaidd a’r Ardd Rosod Edwardaidd er enghraifft, sy’n cynnig lleoliad ar gyfer derbyniad.
LLOGI YSTAFELL
| Cynllun | Capasiti |
| Theatr | 120 |
| Gwledd | n/a |
| Ystafell Fwrdd | n/a |
| Cabaret | n/a |
| Cynllun | Capasiti |
| Theatr | 60 |
| Gwledd | n/a |
| Ystafell Fwrdd | 20 |
| Cabaret | n/a |
| Cynllun | Capasiti |
| Theatr | 15 |
| Gwledd | 40 |
| Ystafell Fwrdd | 15 |
| Cabaret | n/a |
| Cynllun | Capasiti |
| Theatr | n/a |
| Gwledd | 40 |
| Ystafell Fwrdd | n/a |
| Cabaret | n/a |
| Sefyll | 70 |