Stadiwm Principality yw un o arenâu dan do amlbwrpas mwyaf Ewrop gyda tho sy’n agor yn gyfan gwbl. Mae hefyd yn lleoliad aml-ddigwyddiad sy’n cynnal ystod eang o ddigwyddiadau chwaraeon a cherddoriaeth.
Mae’r Stadiwm yn gefndir i ddigwyddiadau busnes gan gynnwys cynadleddau, cyfarfodydd a chinio gala. Mae’n lleoliad unigryw yng nghanol dinas Caerdydd, sy’n cynnig chwe lle gyda lle i hyd at 350 ar ffurf theatr a 300 yn gwledda, 112 o ystafelloedd preifat sy’n wynebu’r cae ac arlwyo mewnol. Mae gan y Stadiwm system gorchuddio’r cae a tho y gellir ei agor yn gyfan gwbl ac sy’n cau ar gyffyrddiad botwm i greu arena dan do, sy’n cynnig nifer o gyfluniadau i gynhalwyr digwyddiadau hyd at 11,000 metr sgwâr.