Neidio i'r prif gynnwys

MERCURE GOGLEDD CAERDYDD

Mae Mercure Gogledd Caerdydd yn agos at yr M4 ac felly’n hawdd ei chyrraedd.

Mae Mercure Gogledd Caerdydd yn siwrne fer yn y car o barciau busnes lleol, parciau manwerthu a chanol dinas Caerdydd, sy’n gwneud y gwesty’n sylfaen ddelfrydol i’r rhai sy’n teithio ar gyfer busnes.

Mae 132 ystafell wely’r gwesty wedi’u hadnewyddu ac maent yn cynnig gwelyau cyffyrddus, teledu 46 modfedd, Wi-Fi am ddim a chyfleusterau te a choffi. Mae bwyty, bar, gwasanaeth ystafell 24-awr a champfa ar y safle.

Mae Mercure Gogledd Caerdydd yn cynnig 10 ystafell gyfarfod a all ddarparu ar gyfer cyfarfodydd bach neu fawr, gyda chyfanswm o 681m2 o le. Ystafell Dewi Sant yw’r ystafell fwyaf a gall ddal hyd at 250 o westeion.  Mae ystafelloedd cynadledda’r gwesty yn cynnig golau dydd naturiol, aerdymheru, Wi-Fi am ddim a’r offer clyweledol diweddaraf.

Gyda maes parcio am ddim ar y safle ar gyfer 250 o gerbydau, gardd y tu allan ar gyfer mynd â chyfarfodydd i’r awyr agored neu gynnal gweithgareddau adeiladu tîm yn ystod y misoedd cynhesach, mae’r gwesty’n cynnig hyblygrwydd i’ch holl anghenion cyfarfodydd.

Mae mesurau #allsafe Covid Mercure ar waith, ac mae gan y gwesty achrediad #goodtogo hefyd. Mae’r gwesty’n cydymffurfio â chanllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru ar westai.

DIDDORDEB?

Ffôn

029 2087 2092

E-bost

enquiries@meetcardiff.com

Llogi'r Lleoliad Hwn...

Hoffech chi logi ystafelloedd cyfarfod neu ddigwyddiadau yn y lleoliad hwn? Llenwch y ffurflen isod gyda'ch gofynion a bydd aelod o'r tîm mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl.