Mae Mercure Gogledd Caerdydd yn siwrne fer yn y car o barciau busnes lleol, parciau manwerthu a chanol dinas Caerdydd, sy’n gwneud y gwesty’n sylfaen ddelfrydol i’r rhai sy’n teithio ar gyfer busnes.
Mae 132 ystafell wely’r gwesty wedi’u hadnewyddu ac maent yn cynnig gwelyau cyffyrddus, teledu 46 modfedd, Wi-Fi am ddim a chyfleusterau te a choffi. Mae bwyty, bar, gwasanaeth ystafell 24-awr a champfa ar y safle.
Mae Mercure Gogledd Caerdydd yn cynnig 10 ystafell gyfarfod a all ddarparu ar gyfer cyfarfodydd bach neu fawr, gyda chyfanswm o 681m2 o le. Ystafell Dewi Sant yw’r ystafell fwyaf a gall ddal hyd at 250 o westeion. Mae ystafelloedd cynadledda’r gwesty yn cynnig golau dydd naturiol, aerdymheru, Wi-Fi am ddim a’r offer clyweledol diweddaraf.
Gyda maes parcio am ddim ar y safle ar gyfer 250 o gerbydau, gardd y tu allan ar gyfer mynd â chyfarfodydd i’r awyr agored neu gynnal gweithgareddau adeiladu tîm yn ystod y misoedd cynhesach, mae’r gwesty’n cynnig hyblygrwydd i’ch holl anghenion cyfarfodydd.
Mae mesurau #allsafe Covid Mercure ar waith, ac mae gan y gwesty achrediad #goodtogo hefyd. Mae’r gwesty’n cydymffurfio â chanllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru ar westai.
DIDDORDEB?
Ffôn
029 2087 2092
E-bost
enquiries@meetcardiff.com
Llogi'r Lleoliad Hwn...
Hoffech chi logi ystafelloedd cyfarfod neu ddigwyddiadau yn y lleoliad hwn? Llenwch y ffurflen isod gyda'ch gofynion a bydd aelod o'r tîm mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl.