Neidio i'r prif gynnwys

LLYFRGELL GANOLOG CAERDYDD

Mae Llyfrgell Ganolog Caerdydd yn lleoliad diwylliannol a chymunedol modern gyda lloriau cynllun agored wedi'u goleuo'n dda.

LLEOLIAD MEWN NIFEROEDD:

2

Ystafelloedd Cyfarfod

35

Capasiti Cynrychiolwyr Uchaf

Adeiladwyd Llyfrgell Ganolog Caerdydd i fod yn un o’r adeiladau mwyaf cynaliadwy yng Nghaerdydd, gan sicrhau’r graddau uchaf ar gyfer datblygu cynaliadwy, ynni a gwasanaethau dŵr effeithlon.

Mae’n cynnig Wi-Fi am ddim drwy’r adeilad, mannau astudio ar bob llawr a Llawr Digidol cyffrous.  Mae 75 o gyfrifiaduron am ddim i’w defnyddio ar y Llawr Digidol gyda phecynnau meddalwedd cyfredol, bar llechi’n cynnig 10 o lechi cyfrifiadurol am ddim i’w defnyddio, wal blasma gyda newyddion, diweddariadau a chynnwys llyfrgell ac argraffwr 3D.

Mae gan yr Ystafell Gyfarfod sydd wedi’i lleoli ar Lefel 4 yr adeilad deledu cyflwyno sgrin gyffwrdd 75” o’r radd flaenaf, trefniadau eistedd hyblyg, y gallu i gynnal galwadau cynhadledd a thaflunydd LCD. Mae hwn yn lle delfrydol ar gyfer cyfarfodydd busnes neu ar gyfer seminarau a chyflwyniadau preifat gyda lle i hyd at o 40 o bobl.

Mae gan yr Ystafell Greadigol ar Lefel 5 daflunydd laser, uned fideo gynadledda, seddi hyblyg a golygfa ysblennydd o’r ddinas. Mae’r gofod hwn yn berffaith ar gyfer cyflwyniadau mwy, gweithgareddau grŵp, seminarau ac fel lle creadigol i hyd at 60 o bobl.

Mae gan yr Ystafell TGCh ar Lefel 5 13 o gyfrifiaduron, sgrin plasma ar gyfer cyflwyniadau, argraffydd pwrpasol a bwrdd clyfar rhyngweithiol. Mae’r gofod hwn yn darparu’n dda ar gyfer grwpiau llai neu ar gyfer cyflwyniadau mwy personol a rhyngweithiol.

LLOGI YSTAFELL

Ystafelloedd Cyfarfod 2 a 4
Cynllun Capasiti
Theatr 35
Gwledd 35
Ystafell Fwrdd n/a
Cabaret 35

DIDDORDEB?

Ffôn

029 2087 2092

E-bost

ymholiadau@meetincardiff.com

Llogi'r Lleoliad Hwn...

Hoffech chi logi ystafelloedd cyfarfod neu ddigwyddiadau yn y lleoliad hwn? Llenwch y ffurflen isod gyda'ch gofynion a bydd aelod o'r tîm mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl.