Neidio i'r prif gynnwys

IBIS CANOL CAERDYDD

Mae Gwesty’r Ibis Canol Caerdydd yn addas i anifeiliaid anwes gyda staff sylwgar wrth law i gynnig cysur modern, fforddiadwy i chi yn y lleoliad gorau yng nghanol y ddinas.

Mae Ibis Canol Caerdydd wedi’i leoli gyferbyn ag Arena Motorpoint, a ger bywyd nos a bwytai’r ddinas.  Mae Stadiwm y Principality, Neuadd Dewi Sant a Chanolfan Mileniwm Cymru gerllaw hefyd, yn ogystal â Chastell Caerdydd, Parc Bute a Bae Caerdydd. Mae systemau oeri aer yn ein 102 ystafell wely fodern, yn ogystal â theledu Freeview ac WiFi am ddim. Cewch fwynhau brecwast a phrydau gyda’r nos yn ein bwyty neu ymlacio â diod yn y bar cyfeillgar. Mae Man Parcio cyhoeddus 2 funud ar droed o’r gwesty.

Addas i anifeiliaid anwes a gyda’r staff mwyaf sylwgar yr ochr hon i Fôr Hafren, mae ein gwesty modern wrth law i gynnig cysur fforddiadwy i chi yn y lleoliad gorau yng nghanol y ddinas. A buan y gwelwch, yn Ibis Caerdydd, na fyddwn byth yn gadael i’n gwesteion fynd yn llwglyd. O’r brecwast diderfyn wedi’i goginio a brecwast cyfandirol bob bore i’n gwasanaeth byrbrydau 24 awr, rydym yma i weini danteithion blasus dydd a nos.

Tua 10 munud o yrru o Fae Caerdydd, mae Ibis Caerdydd yn eich rhoi yn y lleoliad gorau yn y ddinas gydag atyniadau temtasiwn o fewn pellter cerdded (mae Arena Motorpoint ar draws y ffordd). Mae Stadiwm Principality 15 munud i ffwrdd ar droed.

DIDDORDEB?

Ffôn

029 2087 2092

E-bost

enquiries@meetincardiff.com

Llogi'r Lleoliad Hwn...

Hoffech chi logi ystafelloedd cyfarfod neu lety yn y lleoliad hwn? Llenwch y ffurflen isod gyda'ch gofynion a bydd aelod o'r tîm mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl.