Neidio i'r prif gynnwys

HOLIDAY INN EXPRESS BAE CAERDYDD

Gwesty modern ar lan y dŵr yn agos at ganol y ddinas, gyda Wi-Fi am ddim, parcio ar y safle a Brecwast Express Start wedi'i gynnwys.

LLEOLIAD MEWN NIFEROEDD

79

Ystafelloedd Gwely

Gyda’i leoliad defnyddiol rhwng Bae Caerdydd a chanol y ddinas, ac yn edrych dros Ddoc Dwyrain Bute, mae gwesty Holiday Inn Express® Bae Caerdydd yn safle cychwyn cyfleus. Mae milltir o orsaf reilffordd Caerdydd Canolog a 10 munud ar droed o orsaf Bae Caerdydd. Mae’n daith gerdded bum munud i’r safle bws agosaf, lle gallwch ddal bws Baycar Caerdydd i mewn i’r ddinas.

Mewn taith gerdded 10 munud o’r gwesty, mae ardal Bae Caerdydd wedi’i hadfywio yn gartref i fwytai a bariau a Chanolfan Mileniwm Cymru. Cerddwch 15 munud i’r gogledd o’r gwesty, a byddwch yn cyrraedd canol Caerdydd, lle mae’r golygfeydd yn cynnwys Stadiwm Principality a Chastell Caerdydd.

Mae lleoliad y gwesty, parcio ar y safle a Wi-Fi am ddim yn addas i ymwelwyr ar fusnes.

Mae arhosiad yn cynnwys bwffe brecwast (cig moch, selsig, wyau wedi’u sgramblo a ffa pob neu ddewisiadau cyfandirol. Ar ddiwedd diwrnod prysur, ymlaciwch gyda chwrw oer neu wydraid o win yn y bar gwesty.

1 Ystafell Gyfarfod ar y safle ar gyfer hyd at 10 cynrychiolydd mewn arddull ystafell fwrdd.  Sgrîn Glyfar wedi’i chynnwys.

Mae parcio ar y safle ar gael ar sail y cyntaf i’r felin. Codir tâl o £12 y noson am barcio

DIDDORDEB?

Ffôn

029 2087 2092

E-bost

enquiries@meetincardiff.com

Llogi'r Lleoliad Hwn...

Hoffech chi logi ystafelloedd cyfarfod neu lety yn y lleoliad hwn? Llenwch y ffurflen isod gyda'ch gofynion a bydd aelod o'r tîm mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl.