Rydym yn estyn croeso i’r anturiaethwr llygad-loyw i Westy’r Indigo Caerdydd.
Mae’r gwesty modern a ffres yn agos at holl dreftadaeth ac atyniadau’r ddinas. Mae themâu ‘Cynnyrch Cymru’, ‘Diwydiant Cymru’ a ‘Cherddoriaeth’ wedi’u hymgorffori yn y deunyddiau celf a naturiol lleol a ddefnyddiwyd. Mae gan y Marco Pierre White Steakhouse, Bar and Grill deras to ar gyfer diodydd hefyd. Mae llawer o ystafelloedd gwely a’r bwyty yn edrych dros Gastell Caerdydd.