Mae Gwesty’r Angel wedi’i leoli dafliad carreg o Stadiwm y Principality a Chastell Caerdydd ac mae yna ddewis o 7 ystafell gyfarfod sy’n cynnig gofod mawr a chyfforddus ar gyfer digwyddiadau o bob math. Mae mynediad llwytho uniongyrchol o’r maes parcio ar y safle, sy’n gwneud y gwesty’n arbennig o addas ar gyfer lansio cynnyrch ac arddangosfeydd. Mae’r ystafell fwyaf, Ystafell y Ddraig, â lle eistedd i hyd at 300 o gynrychiolwyr ar ffurf theatr gyda nenfwd 7 metr o uchder, ac nid oes pileri yno. Gall ystafell Tŵr y Cloc ddal hyd at 12 o bobl ac mae ganddi ei balconi preifat ei hun gyda golygfeydd yn edrych dros dir y castell a’r ddinas gyfagos gan ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd bwrdd. Codir tâl am leoedd parcio cyfyngedig ar y safle.