Mae Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd (DGRhC) yn ganolfan rafftio dŵr gwyn o safon Olympaidd yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol.
Mae’n ganolfan ragoriaeth ar gyfer hyfforddiant. Mae’r lleoliad yn cynnal cyrsiau, o’r Ysgol Badlo i Wobrau Dug Caeredin. Mae hefyd yn ddewis perffaith ar gyfer gweithgareddau adeiladu tîm gyda chyfleuster cyfarfod a chaffi dan do. Mae’r safle hefyd yn cynnig peiriant tonnau syrffio dan do sy’n cynnig gwefr bordio corff neu’r Antur Awyr, lle gall cynrychiolwyr wisgo harnais a chroesi’r strwythur pren a rhaffau uchel sydd dros y cwrs rafftio ac sy’n cynnwys Pont Burma, Siglen Mwnci, Cropian drwy Gasgen a Weiren Wib.
Gyda hyd at chwe pherson mewn rafft, mae, rafftio dŵr gwyn yn un o’r gweithgareddau mwyaf cymdeithasol sydd ar gael. Yn addas i ddechreuwyr ac anturwyr dŵr gwyn profiadol, mae’r sesiynau 2-awr gyda hyfforddwr yn antur o’r dechrau i’r diwedd.
LLOGI YSTAFELL
Cynllun | Capasiti |
Theatr | 40 |
Gwledd | – |
Ystafell Fwrdd | 25 |
Cabaret | – |
Cynllun | Capasiti |
Theatr | 30 |
Gwledd | – |
Ystafell Fwrdd | 8 |
Cabaret | – |
Cynllun | Capasiti |
Theatr | 16 |
Gwledd | – |
Ystafell Fwrdd | 12 |
Cabaret | – |
Cynllun | Capasiti |
Theatr | 80 |
Gwledd | – |
Ystafell Fwrdd | – |
Cabaret | – |
DIDDORDEB?
Ffôn
029 2087 2092
E-bost
enquiries@meetincardiff.com
Llogi'r Lleoliad Hwn...
Hoffech chi logi ystafelloedd cyfarfod yn y lleoliad hwn? Llenwch y ffurflen isod gyda'ch gofynion a bydd aelod o'r tîm mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl.