Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi’i leoli mewn adeilad cyfoes nodedig ar dir Castell Caerdydd gydag awditoria, lleoedd cyfarfod a bwyta.
Agorwyd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ym mis Mehefin 2011 ac mae’n adeilad gwirioneddol drawiadol ar dir Castell Caerdydd yn agos at Barc Bute. Mae dewis o awditoria gan gynnwys Neuadd Dora Stoutzker, Theatr Richard Burton, Theatr Bute, Theatr Stiwdio Caird, wedi’u hategu gan ddeg ystafell gyfarfod ac is-ystafelloedd o’r radd flaenaf. Mae dewis hefyd o ardaloedd ar gyfer derbyniadau a chiniawau gyda gwasanaeth arlwyo mewnol ardderchog.
Gall trefnwyr cynadleddau wneud eu digwyddiad yn un arbennig drwy logi perfformiwr neu drefnu perfformiad er enghraifft jazz, opera neu theatr gerddorol.