DŴR GWYN RHYNGWLADOL CAERDYDD

Mae Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd yn gyfleuster antur cyffrous ar alw, ac yn gartref i'r unig gwrs rafftio dŵr gwyn yn ne Cymru.

LLEOLIAD MEWN NIFEROEDD:

4

Ystafelloedd Cyfarfod

120

Capasiti Cynrychiolwyr Uchaf

Mae Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd (DGRhC) yn ganolfan rafftio dŵr gwyn o safon Olympaidd yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol.

Mae’n ganolfan ragoriaeth ar gyfer hyfforddiant. Mae’r lleoliad yn cynnal cyrsiau, o’r Ysgol Badlo i Wobrau Dug Caeredin. Mae hefyd yn ddewis perffaith ar gyfer gweithgareddau adeiladu tîm gyda chyfleuster cyfarfod a chaffi dan do. Mae’r safle hefyd yn cynnig peiriant tonnau syrffio dan do sy’n cynnig gwefr bordio corff neu’r Antur Awyr, lle gall cynrychiolwyr wisgo harnais a chroesi’r strwythur pren a rhaffau uchel sydd dros y cwrs rafftio ac sy’n cynnwys Pont Burma, Siglen Mwnci, Cropian drwy Gasgen a Weiren Wib.

Gyda hyd at chwe pherson mewn rafft, mae, rafftio dŵr gwyn yn un o’r gweithgareddau mwyaf cymdeithasol sydd ar gael. Yn addas i ddechreuwyr ac anturwyr dŵr gwyn profiadol, mae’r sesiynau 2-awr gyda hyfforddwr yn antur o’r dechrau i’r diwedd.

LLOGI YSTAFELL

Cynllun Capasiti
Theatr 40
Gwledd
Ystafell Fwrdd 25
Cabaret
Cynllun Capasiti
Theatr 30
Gwledd
Ystafell Fwrdd 8
Cabaret
Cynllun Capasiti
Theatr 16
Gwledd
Ystafell Fwrdd 12
Cabaret
Cynllun Capasiti
Theatr 80
Gwledd
Ystafell Fwrdd
Cabaret