Neidio i'r prif gynnwys

CANOLFAN YMWELWYR PARC BUTE

Yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Bute fe welwch gyfleusterau rhagorol mewn lleoliad prydferth a hanesyddol.

LLEOLIAD MEWN NIFEROEDD

1

Ystafelloedd Cyfarfod

10

Capasiti Cynrychiolwyr Uchaf

Mae Canolfan Ymwelwyr Parc Bute yn cynnig lleoliad unigryw ar gyfer cyfarfodydd a chynadleddau ym mharc a gardd goed Gradd 1 hanesyddol y ddinas.

Wedi’i leoli yng nghanol Caerdydd, mae’r safle’n hawdd ei gyrraedd ond yn cynnig holl lonyddwch a harddwch dihangfa cefn gwlad.

Mewn safle cynnil y tu ôl i wal wedi’i hadeiladu o frics wedi’u hadfer, adeiladwyd y Ganolfan Ymwelwyr i fod yn gynaliadwy (Draig Werdd Lefel 4) ac mae’n cynnwys to gwellt, paneli solar a wyneb pren.

Os ydych chi’n chwilio am leoliad anffurfiol sydd â’r holl gyfarpar ac sy’n galluogi gwesteion i gael eu hysbrydoli a’u hysgogi gan natur, yna mae Canolfan Ymwelwyr Parc Bute yn ddewis ardderchog.

Yn arbennig o addas ar gyfer cyfarfodydd, gweithdai, seminarau a chynadleddau bach, mae’n cynnig prif ystafell ddosbarth, ystafell grwpiau bach ddewisol a derbynfa ar gyfer deunydd arddangos. Bydd y cynrychiolwyr yn mwynhau taith gerdded ddymunol drwy’r parc i’r lleoliad (gall rhai gael eu cludo mewn cerbyd drwy drefnu ymlaen llaw), ac mae arlwywr o ansawdd uchel ar y safle a fydd yn teilwra bwffes a phecynnau lluniaeth i flas a chyllideb trefnydd y digwyddiad.

LLOGI YSTAFELL

Yr Ystafell Ddosbarth
Layout Capacity
Theatre 50
Banquet n/a
Boardroom 30
Cabaret 24
Small Classroom
Layout Capacity
Theatre 10

DIDDORDEB?

Ffôn

029 2087 2092

E-bost

enquiries@meetincardiff.com

Llogi'r Lleoliad Hwn...

Hoffech chi logi ystafelloedd cyfarfod neu ddigwyddiadau yn y lleoliad hwn? Llenwch y ffurflen isod gyda'ch gofynion a bydd aelod o'r tîm mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl.