Mae prif ganolfan Amgueddfa Cymru wedi’i lleoli yng nghanol canolfan ddinesig drawiadol Caerdydd. Mae’r Amgueddfa’n gartref i gasgliadau ysblennydd o gelf a hanes naturiol, yn ogystal ag arddangosfeydd teithiol a dros dro mawr.
Yng nghanol y ddinas, mae gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd neuaddau crand ac orielau; cyfleusterau cynadledda, grwpiau ac arlwyo, yn ogystal ag awditoriwm â chapasiti o 300 ar gyfer perfformiadau a digwyddiadau lansio.
P’un a ydych chi ar drywydd y clasurol, y cyfoes neu’r hynod: archebwch ein cyfleusterau ar gyfer eich digwyddiad, cynhadledd neu achlysur arbennig, a chefnogwch ein gwaith yn diogelu trysorau Cymru.
Fel darparwr dysgu mwyaf Cymru y tu allan i’r ystafell ddosbarth, mae gennym amrywiaeth o lefydd ar gyfer gweithdai, cyflwyniadau a sesiynau adeiladu tîm.
Mae ein Neuadd Fawr yn cynnal derbynfeydd diodydd, lansiadau a chiniawau gala ar gyfer hyd at 300 o westeion.
EVENT SPACES
| Layout | Capacity |
| Theatre | n/a |
| Banquet | 330 |
| Boardroom | n/a |
| Cabaret | 300 |
| Layout | Capacity |
| Theatre | 340 |
| Banquet | n/a |
| Boardroom | n/a |
| Cabaret | n/a |
| Layout | Capacity |
| Theatre | 90 |
| Banquet | 40 |
| Boardroom | 40 |
| Cabaret | 40 |