Beth wyt ti'n edrych am?
CYNHADLEDD ALL SOULS
Enw’r Cleient: Cyn All Souls
Trefnydd y Digwyddiad: Cyn All Souls
Dyddiad y Digwyddiad@ 2-3 Awst 2019
Nifer y cynrychiolwyr: hyd at 400
Daeth y gynhadledd ryngwladol hon â chefnogwyr y gyfres All Souls penigamp Deborah Harkness ynghyd i drafod y themâu yn y llyfrau, yn ogystal â’r addasiad teledu, “A Discovery Of Witches”.
Roedd rhaglen y gynhadledd flynyddol yn cynnwys sesiynau holi ac ateb ynghyd ag arddangosion o rai o’r propiau o’r gyfres deledu; ardal i werthwyr gyda gemwaith, artistiaid, gwerthwyr llyfrau, a nwyddau casgladwy. Un o nodweddion allweddol y gynhadledd oedd arddangosiad o wisgoedd o’r gyfres deledu ar lwyfan.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn Theatr Reardon Smith, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sef awditoriwm yn yr amgueddfa. Fe’i dewiswyd gan fod lle yn yn theatr i 300-400 o gynrychiolwyr yn gyfforddus ac ystafelloedd ychwanegol ar gyfer sesiynau grŵp ac arddangosion. Roedd yr orielau celf o fri, sy’n cynnwys y casgliad mwyaf o Gelf Argraffiadol y tu allan i Baris, yn lleoliad diddorol ar gyfer cynnal derbyniad croeso gyda canapes a gwin pefriog.
Creodd Cwrdd Caerdydd ddolen gyswllt i alluogi cynrychiolwyr i archebu llety ar-lein a arweiniodd at 182 o archebion ar gyfer ystafelloedd.
Eglurodd trefnydd y digwyddiad; “Cawsom wahoddiad i Gaerdydd gan yr asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus sy’n gyfrifol am gyhoeddusrwydd “”A Discovery of Witches””. Rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth a gawsom. Hon oedd ein cynhadledd ryngwladol gyntaf (y tu allan i’r Unol Daleithiau) ac roedd cael y gefnogaeth wych gyda logisteg yn hanfodol i lwyddiant y digwyddiad”.
Delweddau gan Lilly Derway a Tim Trevaskis
CYNHADLEDD ‘CWTCH CON’ RHWYDWAITH HEDDLU LHDT+
Cleient: Rhwydwaith LHDT+ Heddlu De Cymru
Trefnydd y Digwyddiad: Rhanbarthau Cymru – Rhwydwaith Heddlu LHDT+ Cenedlaethol
Dyddiad y Digwyddiad: 22-24 Awst 2019
Nifer y cynrychiolwyr: 350
Lleoliadau: Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd Neuadd y Ddinas
Mae’r Rhwydwaith Heddlu LHDT+ Cenedlaethol yn cynnal cynadleddau blynyddol mewn lleoliadau ledled y DU. Gwirfoddolodd rhanbarth Cymru, sy’n cynnwys pob un o’r 4 heddlu yn y wlad, i drefnu cynhadledd 2019 oedd yn canolbwyntio ar les ac iechyd meddwl o fewn gwasanaeth yr heddlu, gan ganolbwyntio’n benodol ar faterion LHDT+.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys digwyddiad rhwydweithio, cynhadledd diwrnod llawn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a gorymdaith fel rhan o Pride Cymru, a oedd yn cynnwys y nifer fwyaf o blismyn yn cymryd rhan mewn gorymdaith Pride yn hanes Cymru.
Dewiswyd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fel y gwesteiwr delfrydol ar gyfer y gynhadledd, a wnaeth ddefnydd o’i leoliadau niferus gan gynnwys awditoria traddodiadol, stiwdios, bar a’r teras awyr agored. Yn benodol, canmolodd y trefnwyr y lleoliadau amrywiol a chymwys iawn, gan gynnwys y tîm technegol a’r broses baratoi. Neuadd y Ddinas Caerdydd oedd y lleoliad llwyfannu a briffio delfrydol i swyddogion yr heddlu ymgynnull cyn yr orymdaith oherwydd ei lleoliad canolog, ei chapasiti a’r mynediad rhwydd i’r ddinas.
Dywedodd y cleient ar ôl defnyddio gwasanaeth Swyddfa Confensiwn Caerdydd ” Hoffwn ddiolch i chi a’r tîm am bopeth rydych wedi’i wneud i ni dros y 18 mis diwethaf, mae wedi bod yn wasanaeth rhagorol”.
Diolch i drefnydd y gynhadledd am ganiatáu i Cwrdd yng Nghaerdydd ddangos yr adborth o’r gynhadledd yn eu cyflwyniad digidol y gellir ei lawrlwytho yma.
CYNHADLEDD ACHUB TECHNEGOL RESCUE 3 EUROPE
Cleient: Rescue 3 Europe Limited
Trefnydd y Digwyddiad: Rescue 3 Europe Limited
Dyddiad y Digwyddiad: 29 Ebrill – 3 Mai 2019
Nifer y cynrychiolwyr: 350
Lleoliad: Arena Iâ Viola, Canolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd
Cynhaliwyd y digwyddiad bob dwy flynedd ym Mae Caerdydd, a ddewiswyd am ei fod yn agos i Ganolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd. Gan gynnwys cynhadledd ac arddangosfa, roedd y digwyddiad yn canolbwyntio ar gyfle i’r hyfforddwyr adnewyddu eu hachrediad o ran technegau dŵr, rhaffau ac achub cychod.
Addaswyd Arena Iâ Viola i gynnal yr arddangosfa ar y llawr sglefrio ei hun, gyda’r gynhadledd yn cael ei chynnal wrth yr ochr ym mhrif fan cyfarfod y lleoliad. Darparodd y cyfleuster Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd cyfagos gwrs rafftio dŵr gwyn o safon ryngwladol, gweithgareddau yn y dŵr fel canŵio a phadlfyrddio a chyrsiau rhaffau antur awyr.
Darparwyd y gwasanaeth bwyd drwy gydol y digwyddiad gan yr arlwywr Relish Co., a gododd i’r her yn rhagorol. Gwnaethant sicrhau bod y timau yn cael eu cadw’n gynnes ac wedi’u hysgogi ar gyfer y diwrnodau hyfforddi ‘ar y dŵr’ a gwnaethant ddarparu bwffe arloesol yn Arena Viola ar ddiwrnod y gynhadledd.
Dywedodd Jon Gorman, Rheolwr Gyfarwyddwr Rescue 3 Europe Ltd, “Penderfynom gynnal ein digwyddiad yng Nghaerdydd eleni gan fod y cyfleusterau canolfan DGRhC yn cynnig y cyfleusterau sydd eu hangen i roi hyfforddiant diweddaru i’n Hyfforddwyr yr Hyfforddwyr Ewropeaidd. Roedd bod ag Arena Iâ Viola o fewn pellter cerdded gyda chyfleusterau sy’n ddigon mawr ar gyfer arddangosfa ganol wythnos a man cynadledda yn ddelfrydol. Sicrhaodd y staff yn y ddau leoliad fod y broses gyfan yn hynod o hawdd. Mae digonedd o westai o gwmpas Caerdydd ac mae’r cysylltiadau rheilffordd, awyr a ffyrdd yn ddibynadwy ar gyfer ein mynychwyr Ewropeaidd a Rhyngwladol.”
CYNHADLEDD HTC-15
Cleient: Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol – Grŵp Gwyddoniaeth Gwahanu gyda Chymdeithas Gemegol Frenhinol y Fflandrys
Trefnydd y Digwyddiad: International Labmate Ltd
Dyddiad y Digwyddiad: 24-26 Ionawr 2018
Nifer y Cynrychiolwyr: 300
Lleoliadau: Neuadd y Ddinas Caerdydd ac Amgueddfa Caerdydd
Mae’r 15fed symposiwm rhyngwladol ar dechnegau cyfun mewn cromatograffeg a thechnoleg gwahanu yn ddigwyddiad bob dwy flynedd sy’n cynnwys cynhadledd aml-ffrwd, arddangosfa, rhwydweithio a chinio gala. Fel arfer mae’n digwydd yng Ngwlad Belg ond symudodd i Gaerdydd yn 2018.
Dewiswyd Neuadd y Ddinas Caerdydd oherwydd natur fawreddog yr adeilad, y lleoliad gwych a hygyrch iawn yn ogystal â’i allu i gynnal y gynhadledd a’r arddangosfa ar ddau lawr. Yn wreiddiol, bu rhai pryderon ynghylch maint yr arddangosfa, ond datryswyd hyn yn gyflym gan y tîm trefnu ac oherwydd y lleoliad.
Cafodd y cinio gala ei gynnal yn Amgueddfa Cymru, a oedd yn cynnwys derbyniad diodydd yn yr orielau a chinio ffurfiol o gynnyrch lleol yn y brif neuadd atriwm. Uchafbwynt penodol oedd côr meibion Blaenafon yn canu wrth i westeion wneud eu ffordd i lawr o’r orielau i’r ardal ginio.
Dywedodd y cleient: “Profodd Caerdydd yn lleoliad ardderchog i gynnal y 15fed cynhadledd HTC. Gyda chyfuniad gwych o leoliadau, cysylltiadau trafnidiaeth, gwestai a chyfleusterau trawiadol byddem yn argymell Caerdydd yn fawr fel cyrchfan i gynnal digwyddiad.”