Neidio i'r prif gynnwys

Addasi i'r pandemig

LLEOLIADAU A GWESTAI CAERDYDD

Beth mae ein gwestai a’n lleoliadau yn ei wneud i sicrhau eu bod yn ddiogel yn ystod Covid…

Mae pob lleoliad yng Nghaerdydd sy’n cynnal digwyddiadau busnes yn paratoi at ailagor ac yn disgwyl canllawiau agor Llywodraeth Cymru. Yn y cyfamser mae gwestai a lleoliadau lletygarwch wedi bod yn gweithio’n annibynnol ac mewn partneriaeth i sicrhau bod Caerdydd yn ddiogel rhag Covid i bob ymwelydd â’r ddinas.  Maent yn cymryd y protocolau o ddifri i sicrhau eu bod yn addasu, yn dilyn arfer gorau ac yn rhoi sicrwydd i gleientiaid eu bod yn ddiogel i ymweld â nhw, aros neu fwyta ynddynt.

Mae gwestai a lleoliadau yn cymryd rhan yn y cynllun ‘Barod Amdani’, menter genedlaethol dan arweiniad Visit Britain ar y cyd â Chroeso Cymru i roi sicrwydd i gwsmeriaid eu bod wedi bodloni’r meini prawf i ddod yn ddiogel rhag Covid-19.

GWNEUD CAERDYDD YN DDIOGEL I DAWELU MEDDYLIAU YMWELWYR

  • Bydd y Mannau Croeso yn cynnig gwybodaeth i’r ymwelydd/siopwr/gweithiwr ar sut mae canol y ddinas yn gweithio, sut mae ymweld mewn modd diogel, sut mae cyrraedd cyrchfannau penodol, cynllun cerdded, cyfleusterau golchi dwylo, cyfleusterau parcio beiciau ac mae aelod o staff i gynorthwyo.
  • Mae cynllun stryd dinas newydd yn cydnabod nifer yr ymwelwyr ac argaeledd lle cerdded diogel (gyda phellter cymdeithasol). Rhaid i gerddwyr yng nghanol y ddinas ddilyn llwybrau ag arwyddion i sicrhau y cedwir pellter cymdeithasol.
  • Mae rheolau ymbellhau cymdeithasol yn weithredol ym mhob busnes a sefydliad yng Nghaerdydd. Mae ardaloedd ciwio dynodedig wedi’u creu i sicrhau bod ymwelwyr â chanol y ddinas yn cael lloches rhag y tywydd er mwyn cysur a diogelwch pawb.
  • Mae’r Cyngor yn cynnig agor ardaloedd ar gyfer gorlif o bobl a rhoi gofod yn yr ardaloedd cyhoeddus i fusnesau ei ddefnyddio am ddim. Mae’n hanfodol bod y strydoedd allweddol, mannau cyhoeddus a mannau gorlif newydd yn caniatáu ymbellhau cymdeithasol, ac yn caniatáu i fusnesau yng Nghanol y Ddinas barhau i fasnachu. Mae’r rhain yn cynnwys y tiroedd y tu mewn ac o amgylch prif furiau Castell Caerdydd, pen gogleddol Ffordd Churchill, yr Aes a Lôn y Felin.

LLEOLIADAU, GWESTAI, ATYNIADAU A GWASANAETHAU ATEGOL

Mae lleoliadau’n gweithio gyda chleientiaid i newid archebion digwyddiadau busnes yn unigol. Mae pob busnes yn adolygu ei brotocolau’n rheolaidd i sicrhau bod digwyddiad a gynhelir yng Nghaerdydd yn ddiogel. Mae rheolwyr lleoliadau’n gweithio yn unol ag anghenion y cleient ac yn ystyried canllawiau’r llywodraeth sy’n aml yn newid, i wneud cyfarfodydd yn ddiogel. Maent yn ymrwymo i ddilyn telerau ac amodau’r archeb dan gontract ond wrth ystyried hefyd y sefyllfa ar adeg archebu’r digwyddiad yn ystod pandemig Covid-19.

TEITHIO

Maes Awyr Caerdydd

Mae Maes Awyr Caerdydd wedi mynd yn uwch na’r hyn sy’n ofynnol yng nghanllawiau’r llywodraeth ac mae’n gweithredu mewn ffordd ddiogel Covid-19. Dyma rai enghreifftiau o’u protocolau yn eu fideo.

Examples of Covid-19 protocols undertaken by Cardiff Airport:

  • Enhanced cleaning of the whole Airport throughout the day and night, plus a deep sanitisation before the terminal re-opens
  • More hand sanitiser stations added throughout the Airport
  • Social distancing for staff and customers, keeping 2m wherever possible
  • New protective screens in areas such as check in, boarding gates and immigration desks
  • Increased signage and floor markings to help everyone understand the changes to the
  • Airport and remind everyone about the safety measures
  • Displays of all the relevant UK and Welsh Government advice and information
  • Introduced a team of ‘Airport Stewards’ to help customers with the changes throughout the terminal and to be on hand to answer any questions
  • All Airport teams are wearing appropriate PPE as required, including face coverings in all areas
  • We’re asking passengers to wear face coverings when travelling through the Airport before they fly and when they land at Cardiff
  • Encouraging contactless payments throughout the Airport where possible
  • Asking only customers and Cardiff Airport team to enter the terminal buildings
  • Training Airport teams about COVID-19 and the safety measures that have been put in place.

The 51° Executive Lounge & Business lounges are open and taking online bookings and subject to availability.
More useful information here

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch i gael y wybodaeth ddiweddaraf a newyddion y diwydiant gan dîm Cwrdd yng Nghaerdydd…