Beth wyt ti'n edrych am?
Mae Cwrdd yng Nghaerdydd wedi ymuno â Gwesty Dewi Sant Voco a’i bartneriaid Stadiwm Principality, The Botanist a Loving Welsh Food i roi penwythnos cyffrous i chi a’ch gwestai yn y Brifddinas.
BETH GALLECH CHI EI ENNILL?

ARHOSIAD 2 NOSON YNG NGWESTY DEWI SANT VOCO, CAERDYDD
Saif Gwesty Dewi Sant Voco mewn lleoliad hyfryd ar y glannau, gyda golygfa dros Fae Caerdydd a Marina Penarth. Y gwesty, sydd wedi ennill gwobrau byd-eang, yw’r lle perffaith i orffwys ar ôl diwrnod hir o archwilio Caerdydd. Byddwch yn cael arhosiad 2 noson gan gynnwys brecwast a defnydd o’r pwll a’r cyfleusterau sba.

CINIO YN THE BOTANIST
Ewch i The Botanist am ginio 3 chwrs blasus sylweddol gyda diod i bob person i adlenwi’ch lefelau egni ar ôl archwilio’r Ddinas. Mae’n gysyniad heb ei ail, gyda choctels perlysiau, cwrw crefft a bwyd wedi’i ysbrydoli gan y deli, y rotisserie a’r barbeciw. Lleoliad lle ceir hen bethau a thrugareddau’n hongian o’r waliau, gyda botanegwyr preswyl yn creu diodydd anarferol. Dewch i ddarganfod gardd gudd o fwyd a diod, lle mae Botanegwyr wedi bod yn fforio ym mhob twll a chornel i ddod â thoreth o ddanteithion bwyd a diod eithriadol i chi. Gyda cherddoriaeth fyw bob nos, gellir gwarantu awyrgylch gymdeithasol arbennig.
Tybir y bydd y rhai fydd yn cymryd rhan yn y raffl wedi derbyn y telerau ac amodau hyn isod.
- Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn i gymryd rhan yn y raffl.
- Rhaid i ddyddiadau’r gwobrau gael eu dewis gan yr enillydd o leiaf 8 wythnos ymlaen llaw er mwyn osgoi cael eu siomi.
- Bydd y raffl yn cau am hanner nos, nos Fawrth 7 Mehefin 2022 a byddwn yn cysylltu â’r enillydd dros y ffôn. Os na fydd y wobr yn cael ei hawlio o fewn 48 awr, bydd Cwrdd yng Nghaerdydd yn dewis enillydd arall o’r raffl.
- Mae Cwrdd yng Nghaerdydd yn cadw’r hawl i newid y wobr i wobr o’r un gwerth neu werth mwy ar unrhyw adeg.
- Ni ellir hawlio arian neu wobrau eraill yn lle’r gwobrau hyn.
- Nid yw teithio i Gaerdydd ac yn ystod yr arhosiad wedi’i gynnwys.
- Mae’r raffl yn cael ei chynnal gan Cwrdd yng Nghaerdydd
- Wrth gymryd rhan yn y raffl, rydych yn cadarnhau eich bod yn gymwys i wneud hynny ac yn gymwys i hawlio unrhyw wobr y gallech ei hennill.
- Caniateir uchafswm o un cais fesul unigolyn.
- Mae’r raffl yn rhad ac am ddim i gymryd rhan ynddi.
- Ni fydd Cwrdd yng Nghaerdydd yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw fanylion cyswllt sydd wedi’u rhoi yn anghywir.
- Rydych yn cydsynio y caiff Cwrdd yng Nghaerdydd ddefnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir gennych wrth gymryd rhan yn y raffl at ddibenion gweinyddu’r raffl.
- Nid yw Cwrdd yng Nghaerdydd yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddifrod, colled, anaf neu siom a ddioddefir gan ymgeiswyr o ganlyniad i naill ai gymryd rhan yn y raffl neu drwy ddewis gwobr.
- Ynghlwm wrth wobr Dewi Sant Voco mae mynediad i gyfleusterau’r sba a’r pwll. Bydd angen archebu slotiau amser ymlaen llaw, cyn cyrraedd.
- Ni ellir hawlio gwobrau ar ddiwrnodau digwyddiadau mawr yn y Ddinas a rhaid i enillwyr roi cymaint o rybudd â phosibl cyn archebu.
- Tybir y bydd y rhai fydd yn cymryd rhan yn y raffl wedi derbyn y telerau ac amodau hyn.