Neidio i'r prif gynnwys

MAE GAN GAERDYDD GYSYLLTIADAU TRAFNIDIAETH CRYF, FELLY NI ALLAI FOD YN HAWS TEITHIO YMA…

Mae Caerdydd yn ddinas hygyrch; gyda chymaint o ffyrdd o deithio yma does dim esgus dros beidio â thalu ymweliad â ni. Mae gennym ein Maes Awyr Caerdydd ein hunain, cysylltiadau rheilffordd cyflym a rheolaidd o Lundain, mae traffordd yr M4 yn mynd o amgylch gogledd y ddinas a gallech hyd yn oed gyrraedd ar y môr!

DRWY’R AWYR

Mae Maes Awyr Caerdydd yn cynnig hediadau uniongyrchol i ddinasoedd gan gynnwys Caeredin, Belfast, Dulyn, Paris, Amsterdam, München, Genefa, Barcelona, Milan, Fenis a Rhufain, yn ogystal â llwybrau cysylltiol â mwy na 900 o gyrchfannau ledled y byd.

Mae trenau’n rhedeg rhwng y Maes Awyr a Gorsaf Caerdydd Canolog bob awr, gyda bws gwennol yn cysylltu gorsaf y Maes Awyr (y Rhŵs) â’r terminws yn y maes awyr.

Mae Flightlink Wales yn cynnig gwasanaethau gwennol maes awyr dibynadwy, naill ai yn wasanaeth unigol neu’n cael ei rhannu, gan fynd â chi’n uniongyrchol o’r neuadd lanio i’ch gwesty. Mae’r gwasanaeth yn gweithredu’n bennaf o Faes Awyr Caerdydd ond mae hefyd yn cysylltu Meysydd Awyr Bryste, Heathrow a Gatwick â Chaerdydd.

AR Y TRÊN

Mae Caerdydd tua dwy awr o Lundain ar y trên, gyda gwasanaethau bob 30 munud. Mae gan Gaerdydd hefyd lwybrau uniongyrchol i Fryste, Caerfaddon, Birmingham, Manceinion, Nottingham, a phrif drefi a dinasoedd eraill, yn ogystal â’r porthladdoedd yn Southampton a Portsmouth. Mae Gorsaf Ganolog Caerdydd wedi’i lleoli’n gyfleus iawn yng nghanol y ddinas, yn agos at westyau a lleoliadau.

TOCYNNAU CYNADLEDDOL GWR GOSTYNGOL

Cwrdd yng Nghaerdydd oedd y gyrchfan gyntaf i becynnu tocynnau trên arbennig gyda GWR er mwyn cynnig tocynnau trên arbennig i fynychwyr cynadleddau sy'n teithio i Gaerdydd ar gyfer digwyddiad busnes. Mae'r cytundeb unigryw hwn yn berthnasol i fynychwyr sy'n teithio o brif orsafoedd GWR gan gynnwys Paddington Llundain ar wasanaethau GWR i Gaerdydd.

AR Y FFORDD

Mae’n hawdd cyrraedd Caerdydd ar hyd traffordd yr M4, sy’n rhedeg drwy ogledd y ddinas gyda chanol Llundain ond 3 awr i ffwrdd. O Ganolbarth Lloegr, Gogledd Lloegr a’r Alban mae’n daith syml ar hyd yr M6, M5 a’r M50/M4. O Dde a De Orllewin Lloegr mae’r daith ar hyd yr M5 a’r M4. Mae mynediad o Orllewin Cymru ar hyd yr M4.

AR Y MÔR

Os ydych yn cyrraedd y DG ar fferi yn Portsmouth neu Southampton, mae cysylltiadau trên hawdd, uniongyrchol o’r dinasoedd porthladd hyn i Gaerdydd. Mae porthladdoedd y fferi hefyd yn cysylltu â’r system draffyrdd genedlaethol i ddarparu mynediad cyflym i Gaerdydd.
Gallwch hefyd deithio ar fferi o Rosslare yn Iwerddon i Abergwaun neu Benfro yng Ngorllewin Cymru. Mae’r porthladdoedd hyn wedyn yn cysylltu â Chaerdydd trwy fynd ar drên neu ar hyd y ffyrdd.
Am fanylion trenau ewch i National Rail.

Os ydych chi’n ddigon ffodus i fod â’ch cwch eich hun, mae angorfeydd tymor byr ym Mae Caerdydd, a hefyd mae angorfeydd ar gael gerllaw ym Mhenarth

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch i gael y wybodaeth ddiweddaraf a newyddion y diwydiant gan dîm Cwrdd yng Nghaerdydd…