Ar ôl agor yn 2019, mae CGR Cymru yn cynnig cyfle cyffrous i drefnwyr a chynrychiolwyr fel ei gilydd. Wedi’i leoli’n gyfleus ar yr M4 yn Ne Cymru, mae’r lleoliad yn rhwydd cyrraedd yno mewn car a llai na 2 awr ar drên o orsaf Paddington Llundain i Gasnewydd.
Mae’r ganolfan gynadledda yn cynnig 26,000 metr sgwâr o ofod digwyddiadau ar gyfer hyd at 5,000 o gynrychiolwyr, gydag awditoriwm rhengog 1,500 sedd a neuadd arddangos ddi-biler 4,000 metr sgwâr.
Wedi’i dylunio’n unigryw i gydfynd â byd natur, mae pob un o’r 12 o ystafelloedd cyfarfod wedi eu llenwi â golau ddydd. Mae’r lleoliad wedi’i amgylchynu gan goetir ac mae mynediad sros bont ganddo yn uniongyrchol i Hen Goedwig y Coldra a thiroedd Gwesty’r Celtic Manor byd-enwog.