Mae adeilad Techniquest, sydd wedi ennill clod pensaernïol, wedi’i leoli’n agos i Gynulliad Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru ac mae’n meddu ar olygfeydd trawiadol o Fae Caerdydd. Mae’n darparu lleoliad dychmygus ar gyfer achlysuron ffurfiol neu anffurfiol, yng nghanol dros 120 o arddangosiadau gwyddoniaeth ymarferol.
Mae Techniquest wedi bod yn lleoliad delfrydol ar gyfer seremonïau gwobrwyo, dathliadau, digwyddiadau cymdeithasol i staff, lansio cynnyrch, seminarau a derbyniadau. Gellir addasu’r neuadd arddangos i ddarparu ardal lwyfan, ac i arddangos brandio ac addurniadau sy’n addas i sefydliadau unigol.
Mae gan y Theatr Wyddoniaeth gyfleusterau clyweledol ardderchog ar gyfer hyd at 100 o westeion. Gall digwyddiadau hefyd ddefnyddio’r Planetariwm a’r labordy. Gellir darparu prydau eistedd i lawr â lluniaeth lawn ar gyfer hyd at 100 o westeion, a bwffes ar gyfer hyd at 500. Mae cost pob digwyddiad wedi’i theilwra i ofynion unigol.