Mewn lleoliad canolog gyda thu allan godidog yn arddull y Dadeni a mannau cyfarfod cain.
Neuadd y Ddinas Caerdydd yw canolbwynt un o’r canolfannau dinesig gorau, ardal o adeiladau dinesig trawiadol. Agorwyd ym 1906, flwyddyn wedi i Gaerdydd dderbyn y Siarter Frenhinol fel dinas ym 1905. Mae Neuadd y Ddinas yn bennaf yn lleoliad ar gyfer cynadleddau, arddangosfeydd, seremonïau gwobrwyo neu ginio mawreddog.
Oddi mewn i’r tu allan trawiadol, mae dewis o ystafelloedd cain sydd hefyd yn cynnig hyblygrwydd. Gall yr Ystafell Gynulliad fawreddog, amlbwrpas gynnig lle i hyd at 600 o gynrychiolwyr ar gyfer cynhadledd ac mae’n berffaith ar gyfer cyflwyniadau a derbyniadau tra bydd yr argraff gyntaf o’r Neuadd Farmor, wedi’i leinio â cholofnau o farmor Sienna ac wedi’i haddurno â ffenestri gwydr lliw addurnedig yn syfrdanu eich cynrychiolwyr a’ch cleientiaid.
Mae Siambr y Cyngor yn darparu amgylchedd trawiadol ar gyfer cynadleddau i’r wasg, trafodaethau i’w darlledu a chyfarfodydd yn gyffredinol. Yn ogystal â’r prif ystafelloedd digwyddiadau, gall Neuadd y Ddinas hefyd gynnig ystafelloedd syndicâd ar gyfer cyfarfodydd, seminarau neu ystafelloedd gwaith grŵp ar raddfa lai o gynhadledd fwy. Yn anad dim, mae tîm ymroddedig wrth law i helpu’ch digwyddiad i redeg yn llyfn. Dewiswch y lleoliad hwn ar gyfer eich digwyddiad neu gynhadledd a gallwch fod yn hyderus y bydd yn ddigwyddiad y bydd pawb yn ei gofio.
Mae Arlwyo Caerdydd yn cynnig gwasanaeth bwyd ardderchog gydag amrywiaeth o ddewisiadau gan gynnwys bwydlenni Cymreig lleol.