Caerdydd yn cynnal Cynhadledd Flynyddol GANG 2026

Mae Caerdydd wedi croesawu cynrychiolwyr o bob cwr o’r DU ar gyfer cynhadledd flynyddol 2026 y Grŵp Rhwydwaith Cenhadon Mwyaf (GANG), rhwydwaith mawreddog o weithwyr proffesiynol ym maes digwyddiadau busnes sy’n rhannu arfer gorau wrth weithio gyda chenhadon lleol i sicrhau cynigion am gynadleddau rhyngwladol.

Yn dilyn proses gynnig gystadleuol, dewiswyd Caerdydd i gynnal y cyfarfod eleni, a chafodd y digwyddiad deuddydd ei gynnal ddydd Llun 16 a dydd Mawrth 17 Mawrth.

 

Diwrnod Un: Castell Caerdydd

Agorodd y gynhadledd yng Nghastell eiconig Caerdydd, gyda chynrychiolwyr yn cyrraedd i ailgysylltu cyn i’r rhaglen ffurfiol ddechrau yn Ystafell hanesyddol yr Is-grofft.

Rhoddodd Paul Black, Pennaeth Digwyddiadau Busnes Visit Britain, groeso cynnes i’r cynrychiolwyr, ac yna cafwyd trosolwg o’r hyn sy’n newydd yng Nghaerdydd gan Ken Poole MBE, Pennaeth Datblygu Economaidd Cyngor Caerdydd. Tynnodd y sesiwn sylw at fannau cynadledda newydd ym Mae Caerdydd, gwelliannau trafnidiaeth diweddar, a phartneriaethau cynyddol y ddinas â Phrifysgol Caerdydd a’i chymuned o genhadon, yn ogystal â llwyddiannau cynhadledd allweddol a gweithgareddau ymgyrchu.

Roedd sesiwn y prynhawn yn cynnwys dau siaradwr gwadd. Cyflwynodd yr Athro Omer Rana o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd, awdurdod blaenllaw ym maes AI a chyfrifiadura dosbarthedig perfformiad uchel, a Chyd-gyfarwyddwr Canolfan AI National Edge y DU, gipolwg o dueddiadau diddorol ar ddyfodol digwyddiadau busnes. Roedd ei sgwrs yn archwilio defnyddio offer AI i lunio cynigion, yr awydd cynyddol am rwydweithio wyneb yn wyneb, a rôl esblygol technoleg wrth gyflwyno cynadleddau.

Daeth y diwrnod i ben gyda chyflwyniad gan Louise McQuillan, Rheolwr Datblygu Busnes yn Visit Belfast, a rannodd fewnwelediadau o’r arolwg CityDNA, astudiaeth ledled Ewrop o raglenni cenhadon ar draws canolfannau confensiwn, gan sbarduno trafodaeth bord gron fywiog am sut mae cyrchfannau yn esblygu eu dull o ymgysylltu â chenhadon ac ar lefel academaidd.

Yna ymgasglodd y cynrychiolwyr am ddiodydd yn Barbara’s cyn mwynhau spwer yn Brown’s Brasserie yng nghwesty’r Marriott Caerdydd.

 

Diwrnod Dau: Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd

Symudodd yr ail ddiwrnod i leoliad deinamig Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, lle trodd y ffocws at astudiaethau achos yn y byd go iawn o gymuned Cenhadon Cynhadledd Caerdydd ei hun.

Rhannodd tri o genhadon rhagorol Caerdydd eu profiadau:

Siaradodd yr Athro Simon Jones, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau ym Mhrifysgol Caerdydd, am ei waith yn dod â chyngres feddygol ryngwladol fawr i’r ddinas, gan gynnig cipolwg cymhellol ar sut y gall cynigion dan arweiniad y byd academaidd roi Caerdydd ar lwyfan y byd.

Rhannodd yr Athro Katie Webb, Athro Addysg Feddygol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, ei phrofiad o hyrwyddo Caerdydd fel cyrchfan cynadledda o fewn y gymuned addysg proffesiynau iechyd. Yn fwyaf diweddar, bu’n gadeirydd y grŵp cynllunio ar gyfer CLIC2025 — cynhadledd flynyddol ryngwladol gyntaf erioed y Consortiwm ar gyfer Clerciaethau Integredig Hydredol a gynhaliwyd yn Ewrop, a gafodd ei chynnal yng Nghaerdydd.

Disgrifiodd George Pritchard, Pennaeth y DU yn yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (ESA), sut y dewisodd Gaerdydd i gynnal un o chwe chyfarfod blynyddol Pwyllgor Polisi Diwydiannol yr ESA, gan ddod â thua 200 o gynrychiolwyr o bob cwr o Ewrop i’r ddinas. Tynnodd George sylw at y gefnogaeth hollbwysig a gafodd gan dîm Cwrdd yng Nghaerdydd wrth ddod o hyd i leoliadau a chyflwyno digwyddiad llwyddiannus.

Dilynwyd cyflwyniadau’r cenhadon gan gyfraniad trwy Teams gan Elaine Miller o Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Caeredin (EICC). Fel un o sylfaenwyr rhwydwaith GANG, rhannodd Elaine fanylion y Fenter Gyfnewid – bwrdd cynghori academaidd a sefydlodd yn EICC i arddangos effaith ehangach ymchwil trwy ddigwyddiadau busnes a meithrin cydweithrediad rhyngwladol. Amlinellodd hefyd Raglen Gymrodoriaeth yr EICC a lansiwyd yn ddiweddar, sy’n cynnig lleoedd cynadledda wedi’u hariannu i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.

Roedd y prynhawn yn cynnwys trafodaeth grŵp ar rannu manylion digwyddiadau busnes a hwyluso cysylltiadau ymhlith cenhadon, cyn i gynhadledd 2026 ddod i ben â sylwadau cloi.

 

Mae dewis Caerdydd i gynnal GANG 2026 yn dyst i gryfder rhwydwaith cenhadon cynadledda’r ddinas ac ymrwymiad tîm Cwrdd yng Nghaerdydd i dyfu’r sector digwyddiadau busnes. I ddysgu mwy am Raglen Cenhadon Cynadledda Caerdydd a sut mae ein cenhadon yn helpu i ddod â digwyddiadau o’r radd flaenaf i’r ddinas, ewch i Cwrdd â’n Cenhadon Cynhadledd Caerdydd • Cwrdd yng Nghaerdydd