Neidio i'r prif gynnwys

Gwylio’r Hebog Tramor yn Neuadd y Ddinas!

Efallai fod Neuadd y Ddinas ar gau i’r cyhoedd tra byddwn yn gwneud gwaith i ddiogelu a moderneiddio un o brif adeiladau treftadaeth Caerdydd, ond mae’r Hebogiaid Tramor sy’n meddiannu tŵr y cloc wedi bod braidd yn amharod i symud allan.

Mae ganddyn nhw esgus da – maen nhw’n brysur yn gofalu am bedwar cyw newydd-anedig!

Dywedodd Rheolwr y Prosiect, Andrew Phillips: “Mae’n wych eu gweld nhw i fyny yno ar y tŵr cloc bob dydd. Cyn belled ag y gallwn ni ddweud, mae’r cywion yn gwneud yn dda – ac efallai nad ydyn nhw rhy bell o hedfan am y tro cyntaf.

“Nid yw’r gwaith yn effeithio arnyn nhw o gwbl ac ar ôl i ni orffen, bydd cenedlaethau’r dyfodol o Hebogiaid Tramor yn gallu mwynhau bywyd yn un o adeiladau mwyaf trawiadol Caerdydd am flynyddoedd lawer i ddod.”

© Kate Price