Mae Gwesty’r Future Inn Bae Caerdydd 4 seren yn cynnig 197 o ystafelloedd gwely mawr wedi’u haerdymheru a pharcio ceir am ddim ar y safle. Mae’r holl ystafelloedd cyfarfod a digwyddiadau wedi’u lleoli ar y llawr gwaelod gyda mynediad hawdd ac mae ganddynt daflunydd data, rheolyddion tymheredd a chyfleusterau tywyllu. Mae gan y gwesty ddewis o wyth ystafell gyfarfod bwrpasol, wedi’u cyfarparu’n dda ac ystafelloedd digwyddiadau preifat i ddarparu ar gyfer cyfarfodydd bach, cynadleddau, arddangosfeydd a lansio cynnyrch. Mae Bwyty Thomas a’r tîm arlwyo mewnol hefyd yn cynnig bwydlenni Cymreig gan ddefnyddio cynhwysion lleol.