Efallai nad arena iâ sy’n dod i’r meddwl gyntaf o ran cynnal digwyddiad busnes ond gallai Arena Vindico fod y lleoliad amgen nad ydych wedi meddwl amdano eto!
Gyda chapasiti o dros 4,500 ar gyfer cyngherddau a digwyddiadau byw, mae Arena Vindico’n cynnig lleoliad dan do sy’n gallu cynnal digwyddiadau preifat, cyfarfodydd bwrdd a chynadleddau fideo; mae’r arena yn amlbwrpas iawn a gellir ei gwneud yn llai i gyd-fynd â maint digwyddiad. Mae Arena Vindico yn cynnig mannau cyfarfod a chynhadledd ategol.