Mae’r Castell yn atyniad arwrol yng Nghymru ac yn safle o arwyddocâd rhyngwladol gyda 2000 o flynyddoedd o hanes. Wedi’i leoli o fewn parcdiroedd hardd canol y ddinas, roedd yn gaer Rufeinig yn wreiddiol, yn gadarnle Normanaidd a heddiw yn gampwaith Gothig Fictoraidd trawiadol, a grëwyd ar gyfer un o ddynion cyfoethocaf y byd. Yn y 19eg ganrif, creodd y pensaer William Burges balas ffantasi canoloesol ar gyfer 3ydd Ardalydd Bute; mae’r canlyniadau’n syfrdanol gyda’r tu mewn yn gyfoethog gyda gildio, cerfio pren, murluniau, marmor a gwydr lliw. Mae nifer o’r ystafelloedd hynod hyn ar gael i’w llogi.
Mae’r Neuadd Wledda’n berffaith ar gyfer diddanu mawreddog gyda nenfydau uchel, goleuadau atmosfferig, ac addurniadau â thema ganoloesol sy’n lleoliad ysblennydd ar gyfer cinio gala neu wledd. Mae yna hefyd y dewis o ddiodydd rhag blaen yn y Llyfrgell. Mae Ystafelloedd y Tŵr Gwesteion yn ardal fwy personol, hunangynhwysol, sy’n cynnig mannau hyblyg ar gyfer cyfarfodydd busnes neu fwyta. Mae’r Ganolfan Ymwelwyr yn lleoliad mawr, modern a hyblyg sy’n cynnig golygfeydd gwych ar draws lawnt y castell i’r tŷ a’r Gorthwr Normanaidd. Mae’r Is-grofft yn un o rannau hynaf y Castell, mae’n cynnig lle hyblyg ar gyfer cyfarfodydd a chiniawau. Gellir cynnal Gwleddoedd Cymreig yn y gofod hwn.