Caerdydd yn dathlu haf cerddorol llwyddiannus wrth i ffigurau newydd ddangos bod mwy o ymwelwyr yn dewis Caerdydd

Dydd Llun, 17 Awst 2026


 

O gyngherddau dan eu sang ar dir Castell Caerdydd i sioeau awyr agored mawr yng Nghaeau’r Gored Ddu a diwedd 30 mlynedd o aros i Metallica ddychwelyd i Gymru, mae haf arall o gerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd wedi dod i ben, ar ôl arddangos y ddinas fel un o brif gyrchfannau digwyddiadau mawr y DU ac annog miloedd o gefnogwyr cerddoriaeth i ymweld â Chaerdydd.

Yn sgil cyngherddau’r haf gan artistiaid fel The Cure, Teddy Swims, Pitbull, Lewis Capaldi, David Byrne, Katy Perry, Self Esteem a Richard Ashcroft, mae Caerdydd wedi gallu adeiladu ar lwyddiant y blynyddoedd blaenorol wrth i’r ddinas barhau i gryfhau ei henw da yn fyd-eang fel dinas gerddoriaeth a chyrchfan ar gyfer cyngherddau o’r radd flaenaf yn ogystal â digwyddiadau chwaraeon mawr.

Er nad yw data economaidd ar gyfer haf 2026 ar gael eto, mae ffigurau twristiaeth newydd ar gyfer 2025 yn dangos bod economi ymwelwyr Caerdydd eisoes yn tyfu’n gryf cyn y rhaglen o gyngherddau eleni.

Yn 2025, denodd Caerdydd 18.69 miliwn o ymwelwyr, cynnydd o 4.4% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol a bron i 800,000 yn fwy o ymweliadau nag yn 2024. Cynyddodd effaith economaidd twristiaeth 6.7% hefyd i £1.86 biliwn.

Mae’r twf yn economi ymwelwyr Caerdydd wedi cael ei gefnogi gan ystod o weithgareddau dan arweiniad y cyngor, gan gynnwys gwaith Croeso Caerdydd i hyrwyddo’r ddinas fel cyrchfan a’r gefnogaeth y mae’n ei ddarparu ar gyfer cyngherddau mawr drwy Ddinas Gerdd Caerdydd, y digwyddiadau mewnol fel Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd y mae’n ei chynnal, ac amrywiaeth o fentrau rheoli canol y ddinas a rhaglenni cymorth busnes sy’n helpu cwmnïau lleol i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sy’n cael eu creu gan dwristiaeth a digwyddiadau.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Digwyddiadau:  “Dros y misoedd diwethaf rydym wedi gweld Castell Caerdydd a Chaeau’r Gored Ddu unwaith eto yn croesawu degau o filoedd o gefnogwyr cerddoriaeth. Rydym eisoes yn gwybod bod cyngherddau yng Nghaeau’r Gored Ddu yn unig wedi arwain at 700,000 o ymweliadau ychwanegol â mannau bwyta ac yfed yn y ddinas yn 2025, tra bod y ffigurau twristiaeth diweddaraf yn dangos bron i 19 miliwn o ymweliadau â’r ddinas y flwyddyn honno, gan gefnogi mwy na 12,100 o swyddi cyfwerth ag amser llawn.

“Gyda’i gilydd, mae’r ffigurau hynny’n awgrymu bod ein ffocws ar gerddoriaeth, ochr yn ochr â digwyddiadau chwaraeon a digwyddiadau eraill, yn helpu i gryfhau apêl arwyddocaol Caerdydd fel cyrchfan ac i gefnogi economi’r ddinas.

“Nod rhaglen yr haf hwn oedd adeiladu ar lwyddiant y blynyddoedd blaenorol, a gyda Grand Départ GB Tour de France yn digwydd yng Nghaerdydd yn 2027, ynghyd ag Andrea Bocelli yn camu i’r llwyfan yn Stadiwm Principality, rhagor o gyngherddau yng Nghaeau’r Gored Ddu a Chastell Caerdydd, ochr yn ochr â digwyddiadau fel Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd yn dychwelyd, rydym yn hyderus y bydd gan y ddinas rywbeth unwaith eto i’w gynnig i bawb sy’n dewis ymweld â Chaerdydd — p’un a ydyn nhw’n chwilio am gerddoriaeth, chwaraeon, diwylliant, siopa neu fwynhau ein glannau a’n parciau gwych.”