Cynrychiolwyr yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd yn mwynhau prifddinas Cymru

Dydd Llun, 19 Ionawr 2026


 

Cynrychiolwyr yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd yn mwynhau prifddinas Cymru, wrth i Gaerdydd gynnal cyfarfod Pwyllgor Polisi Diwydiannol 2023.

Croesawodd lleoliadau eiconig yng Nghaerdydd gynrychiolwyr o’r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (AOE), wrth i Asiantaeth Ofod y DU ddewis Caerdydd fel dinas groeso confensiwn 2023.

 

Mae’r Pwyllgor Polisi Diwydiannol (PPD) yn gorff gwneud penderfyniadau allweddol o fewn strwythur llywodraethu AOE sy’n gyfrifol am ddiffinio, datblygu, gweithredu a monitro polisi diwydiannol yr asiantaeth, gan gynnwys yr egwyddor ad-dalu daearyddol. Mae’r PPD yn cymeradwyo cynigion caffael a chontract i sicrhau mynediad teg i gaffael AOE ymhlith yr holl Aelod-wladwriaethau.

Defnyddiodd y cynrychiolwyr ddau o’n stadia chwaraeon anhygoel, gyda derbyniad diodydd yn Stadiwm Principality, ynghyd â chyfarfodydd gweithgor yn cael eu cynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd, cartref tîm pêl-droed y ddinas yng Nghynghrair Pêl-droed Lloegr. Cynhaliodd Gwesty’r Marriott Caerdydd y prif sesiynau llawn a lletya’r gwesteion hefyd. Roedd hyn yn eu galluogi i gael y cyfle i brofi calon dinas Caerdydd, gyda’n harcedau Fictoraidd ac Edwardaidd, atyniadau fel Castell Caerdydd ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, parciau a bwytai, i gyd o fewn pellter cerdded byr.

Fel gwesteiwr y digwyddiad, manteisiodd Asiantaeth Ofod y DU i’r eithaf ar y cymorth helaeth a gynigiwyd gan swyddfa gynadleddau’r ddinas, Cwrdd yng Nghaerdydd, tîm sydd â degawdau o brofiad yn cefnogi cynadleddau a chonfensiynau sy’n dod i brifddinas Cymru, gan dynnu ar eu harbenigedd a’u cysylltiadau â lleoliadau confensiwn mawr y ddinas, ynghyd â lleoliadau unigryw ac anghyfarwydd llai, gan ymfalchïo mewn cefnogi trefnwyr cynadleddau gyda’r adnoddau sydd eu hangen arnynt wrth ddewis Caerdydd.

Rhannodd George Pritchard, Arweinydd Polisi Diwydiannol AOE yn Asiantaeth Ofod y DU, ei farn:

  • “Rwy’n hynod ddiolchgar am y rôl a chwaraeodd Cwrdd yng Nghaerdydd wrth gynnal Pwyllgor Polisi Diwydiannol yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd yn hynod lwyddiannus yng Nghaerdydd.
  • Roedd y cynrychiolwyr yn llawn canmoliaeth, nid yn unig ar gyfer y 4 lleoliad a gynhaliodd ein digwyddiad, ond ar gyfer y ddinas ei hun hefyd. I’r rhan fwyaf ohonynt, dyma oedd y tro cyntaf iddynt ymweld â Chaerdydd, ond rwy’n credu nad dyma fydd y tro olaf!
  • Roedd proffesiynoldeb y tîm wrth fy nghynorthwyo i ddod o hyd i’r lleoliadau, gwneud gwaith paratoi dilynol gyda’r lleoliadau a ddewiswyd a chysylltu dilynol ag AOE yn rhagorol. Roedd eu porth trefnu llety yn addas iawn i ddefnyddwyr ac yn rhoi blas o’r hyn y gallai cynrychiolwyr ddisgwyl ei weld yn ystod eu hamser yng Nghaerdydd.

 

Ychwanegodd Faye Tanner, Rheolwr Partneriaethau Masnachol Cwrdd yng Nghaerdydd:

  • “Roedd yn bleser gweithio gyda George ac Asiantaeth Ofod y DU i ddod â’r digwyddiad mawreddog hwn i Gaerdydd ac arddangos ein dinas wych i’w gymheiriaid Ewropeaidd. Mae Caerdydd wedi adeiladu enw da am gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, o chwaraeon, diwylliant a cherddoriaeth fyw, yn ogystal â chynnal confensiynau, cynadleddau, enciliadau a digwyddiadau busnes, i lawer o fusnesau yn y sector cyhoeddus a phreifat. Mae’n ddinas ddelfrydol ar gyfer y mathau hyn o ddigwyddiadau, gydag atyniadau, bwytai, siopau a mannau gwyrdd syfrdanol yn hawdd eu cyrraedd o’n hamrywiaeth o letyau partner yng nghanol y ddinas.
  • Rydym yn ceisio helpu trefnwyr digwyddiadau bob cam o’r ffordd, gyda phecynnau cymorth i’r rhai sy’n ystyried Caerdydd, gan arddangos lleoliadau posibl i’r trefnwyr, a chymorth hyd at y digwyddiad, ac mae ein perthynas gref â lleoliadau allweddol ac atyniadau twristaidd y ddinas yn allweddol i ni allu cynnal digwyddiadau busnes pwysig fel Pwyllgor Polisi Diwydiannol yr AOE yn ein dinas.”

 

DIWEDD

Mae tîm Cwrdd yng Nghaerdydd yn uned sydd wedi’i lleoli yng Nghyngor Caerdydd sy’n hyrwyddo Caerdydd fel cyrchfan digwyddiadau busnes ac yn cynnig gwasanaeth am ddim i drefnwyr cynadleddau gan gynnwys canfod lleoliadau, dylunio rhaglen gynadledda ynghyd â gwasanaethau a chyflenwyr wrth gefn.