Beth wyt ti'n edrych am?
CCIH 2025: Caerdydd yn croesawu'r Consortiwm Clerciaeth Integredig Hydredol
Dydd Mawrth, 11 Tachwedd 2025
Mae Caerdydd yn falch o gynnal Cynhadledd CCIH 2025, gan groesawu 150 o gynrychiolwyr rhyngwladol i’r ddinas ar gyfer tro cyntaf erioed y cyfarfod byd-eang mawreddog hwn yn Ewrop. Teithiodd cynrychiolwyr o bob cwr o’r byd, a oedd yn cynrychioli gwledydd gan gynnwys yr UDA, Canada, Norwy, Awstralia, yr Almaen, Ffrainc, sawl gwlad o Affrica yn ogystal â chynrychiolwyr o dde’r byd.
Consortiwm Clerciaeth Integredig Hydredol (CCIH) yw’r digwyddiad blynyddol mwyaf blaenllaw ar gyfer addysgwyr, ymchwilwyr ac ymarferwyr meddygol sy’n ymwneud â chlerciaeth integredig hydredol (CIH) – dull o addysg glinigol sy’n galluogi myfyrwyr meddygol a meddygon dan hyfforddiant i gymryd rhan mewn gofal cleifion a hyfforddiant mewn disgyblaethau arbenigol dros gyfnodau estynedig o amser, gan feithrin parhad mewn dysgu a pherthnasoedd cleifion.
Cyflwynwyd cynhadledd 2025 drwy bartneriaeth gydweithredol rhwng Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor, gan arddangos cryfder ac arloesedd addysg feddygol ledled Cymru. Cynhaliwyd y rhaglen mewn sawl lleoliad unigryw yng Nghaerdydd: Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Canolfan Bywyd y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, a Gwesty’r Exchange.
Trefnydd a Llysgennad Cynhadledd Caerdydd, yr Athro Katie Webb: “Mae cynnal CCIH 2025 yng Nghaerdydd drwy’r bartneriaeth rhwng y tair Prifysgol wedi bod yn garreg filltir i’r Consortiwm ac yn gyfle gwych i arddangos rhagoriaeth Cymru mewn addysg ac ymchwil feddygol. Mae dod â’r gynhadledd i Ewrop am y tro cyntaf wedi ein galluogi i rannu syniadau ac arloesiadau gyda chydweithwyr ledled y byd, wrth roi blas gwirioneddol i gynrychiolwyr o ddiwylliant a lletygarwch Cymru a Chaerdydd.”
Roedd y digwyddiad hefyd yn dyst i gryfder Rhaglen Llysgenhadon Cynhadledd Caerdydd, gyda’r prif drefnydd, sy’n un o Lysgenhadon Cynhadledd Caerdydd, yn gweithio’n agos gyda thîm Cwrdd yng Nghaerdydd i sicrhau a chyflwyno’r gynhadledd.
Dywedodd Pennaeth Digwyddiadau Busnes Cwrdd yng Nghaerdydd, Faye Tanner: “Rydym yn falch iawn o fod wedi cefnogi CCIH 2025, casgliad gwirioneddol fyd-eang o arweinwyr addysg feddygol. Mae’n wych gweld Caerdydd yn cael ei chydnabod ar y llwyfan rhyngwladol fel rhywle lle mae cydweithio, arloesi a dysgu yn ffynnu. Mae cynnal y gynhadledd CCIH gyntaf yn Ewrop yn tynnu sylw at allu Caerdydd i gyflwyno digwyddiadau o’r radd flaenaf wrth gynnig croeso cynnes Cymreig i gynrychiolwyr.”
![]()
DIWEDD
Mae tîm Cwrdd yng Nghaerdydd yn uned sydd wedi’i lleoli yng Nghyngor Caerdydd sy’n hyrwyddo Caerdydd fel cyrchfan digwyddiadau busnes ac yn cynnig gwasanaeth am ddim i drefnwyr cynadleddau gan gynnwys canfod lleoliadau, dylunio rhaglen gynadledda ynghyd â gwasanaethau a chyflenwyr wrth gefn.
Gwybodaeth ychwanegol:
Faye Tanner
Cwrdd yng Nghaerdydd
hello@meetincardiff.com