Beth wyt ti'n edrych am?
Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd 2025: pythefnos o gerddoriaeth, perfformio ac arloesi
Dydd Llun, 5 Medi 2025
Efallai bod haf hir a phoeth Caerdydd o gerddoriaeth yn dod i ben, ond does dim rhaid i ffans cerddoriaeth aros yn hir cyn i gerddoriaeth ddod i galon y brifddinas unwaith eto. Wrth i’r hydref ein cyrraedd a’r nosweithiau ddechrau’n gynt, bydd Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn dychwelyd am ei hail flwyddyn, gan arddangos artistiaid lleol ochr yn ochr â’r gorau o ysbryd creadigol Cymru, ynghyd ag artistiaid byd-enwog a thalent sy’n dod i’r amlwg.
Yn digwydd rhwng 3 a 18 Hydref, bydd yr ŵyl yn ddathliad pythefnos o hyd gyda gigs, digwyddiadau, sgyrsiau, gosodweithiau celf a safleoedd dros dro, yn harneisio pŵer cerddoriaeth, perfformio a thechnoleg i uno ac ysbrydoli.
Mae’r rhaglen eleni yn cynnwys perfformiadau gan sêr byd-eang gan gynnwys Rufus Wainwright, Cate Le Bon, Gruff Rhys, Moonchild Sanelly, a Meredith Monk, yn ogystal â chydweithrediad arbennig rhwng y gitarydd bas penigamp o Gymru Pino Palladino a’r gitarydd clodwiw Blake Mills, gyda Sam Gendel a Chris Dave yn ymuno â nhw.
Mae prif ddigwyddiadau’r ŵyl, Sŵn a Llais, yn dychwelyd gyda lein-yps amrywiol sy’n cynnwys cerddoriaeth o bedwar ban byd. Bydd Sŵn yn cyflwyno cerddoriaeth newydd arloesol gan artistiaid fel Mykki Blanco, Getdown Services, Ugly a Lord Apex, tra bydd Llais yn archwilio pŵer lleisiol drwy berfformiadau gan Beverly Glenn-Copeland, Ibibio Sound Machine, Vieux Farka Touré a Mabe Fratti.
Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd hefyd yn dathlu treftadaeth gerddorol gyfoethog a sîn gyfoes fywiog Cymru. Gall cynulleidfaoedd edrych ymlaen at set glòs arbennig gan y cerddorion lleol o fri CVC, yn ogystal â pherfformiadau gan artistiaid o Gymru gan gynnwys Adwaith, Georgia Ruth, The Gentle Good, Mared a Ffrindiau, ac enwau cyffrous fel Angharad, Ani Glass, Papaya Noon a Nancy Williams.
Bydd gwaith ymdrochol ac arbrofol yn rhan allweddol o’r rhaglen, gyda chromen CULTVR yn cynnal sioeau arloesol gan Ishmael Ensemble a MONOCOLOR, tra bod Canolfan Mileniwm Cymru yn llwyfannu premiere Ceci est mon cœur (Dyma fy nghalon) – profiad barddonol, amlsynhwyraidd sy’n archwilio stori garu anhygoel plentyn yn cymodi â’i gorff.
Bydd yr ŵyl hefyd yn cynnal y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, sy’n dathlu’r gorau mewn cerddoriaeth gyfoes Gymreig, a digwyddiad arbennig mewn partneriaeth â’r BBC, Canwr y Byd Caerdydd: Dathliad.
Yn ogystal â pherfformiadau, bydd yr ŵyl hefyd yn cynnwys Sŵn Cysylltu, rhaglen gynhadledd sy’n dod ag artistiaid, gweithwyr proffesiynol y diwydiant a chynulleidfaoedd ynghyd i archwilio dyfodol cerddoriaeth, technoleg a chreadigrwydd.
Dywedodd Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Jennifer Burke: “Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn ddathliad o greadigrwydd, amrywiaeth ac uchelgais ein dinas ac yn elfen allweddol o’n strategaeth gerddoriaeth. Mae’n dod â phobl at ei gilydd trwy gerddoriaeth a pherfformio, yn cefnogi artistiaid a lleoliadau lleol, ac yn arddangos Caerdydd fel lle i ddiwylliant ffynnu.”
Dywedodd Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant: “Mae’r rhestr gyffrous hon o berfformwyr ar gyfer ail flwyddyn Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn cynnig rhywbeth i bob chwaeth gerddorol, o sêr byd-eang i dalent sy’n dod i’r amlwg o Gymru, ac yn arddangos amrywiaeth a chreadigrwydd anhygoel ein sîn gerddoriaeth.
“Rwy’n dymuno’r gorau i’r holl drefnwyr a pherfformwyr ar gyfer yr hyn sy’n addo bod yn ŵyl ragorol, ac rwy’n annog pawb i fynychu a phrofi’r ystod lawn o berfformiadau a digwyddiadau sydd ar gael.”
Bydd manylion llawn y rhaglen a gwybodaeth am docynnau ar gael yn fuan yn:
gwyldinasgerddcaerdydd.cymru| cardiffmusiccityfestival.wales
Cefnogir Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.