Neidio i'r prif gynnwys

Bwyty a Bar blaenllaw gan ddeuawd sydd wedi ennill gwobrau i agor yng Nghaerdydd

28 April 2023


 

Bydd Bwyty a Bar newydd cyffrous yn agor ei ddrysau i’r cyhoedd fis nesaf yn y Rhath, Caerdydd.

Bydd y lleoliad newydd – Silures – yn cynnig bwyd Ewropeaidd modern a diodlen goctels unigryw ar hen safle Cameo Club, ar Heol Wellfield, o ddydd Gwener 19 Mai.

Wedi’i greu a’i weithredu gan yr arbenigwyr y tu ôl i rai o leoliadau mwyaf mawreddog Llundain, megis Savoy Grill by Gordon Ramsay, Galvin Bar & Grill a The Coral Room, Silures yw dewis leoliad Andrei Maxim a Daf Andrews o’r A&M Hospitality Group, sydd newydd ei sefydlu.

Ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul, bydd gan Silures le i hyd at 100 o westeion mewn lleoliad wedi’i ailddychmygu’n llwyr, sy’n cynnwys ardal bwrpasol sy’n croesawu cŵn yn y teras cefn. Ar benwythnosau, gall gwesteion ddisgwyl Brecinio drwy’r dydd ar ddydd Sadwrn, a Chinio Dydd Sul. Bydd Silures hefyd yn cynnig diodlen goctels unigryw o’r enw The Seven Wonders, sy’n cynnwys coctels a ysbrydolwyd gan hanes diwylliannol Cymru, a ddatblygwyd ac a feistrolwyd gan Gyfarwyddwr Diodydd o Lundain, Ignacio Alcina.

Tra bod ei gwreiddiau yng Nghymru, mae’r fwydlen wedi’i hysbrydoli’n bendant gan goginio Ewropeaidd modern gan ddefnyddio cynhwysion Cymreig lleol a thymhorol. Dyma ambell bryd o fwydlen lansio Silures: Planhigyn wy Dyffryn Gwy wedi’i grilio gyda saws Hollandaise; ysgwydd cig oen wedi’i halltu â pherlysiau gyda phiwrî tatws garlleg gwyllt wedi’i fygu; a thermidor cimwch brodorol.

Mae’r Pen-Cogydd Gweithredol, Byron Moussouris, yn ymuno â Silures wedi pum mlynedd yng ngwesty moethus enwog The Bloomsbury, a phedair blynedd yn The Marylebone fel Pen-Cogydd cyn hynny. Wedi’i eni a’i fagu yn Ne Affrica, cafodd y Cogydd Byron ei hyfforddi’n glasurol yn rhai o’r bwytai a’r gwestai gorau yn Cape Town, a daw â chyfoeth o brofiad coginio i leoliad newydd y Rhath.

Gan sôn am yr hyn y gall bwytawyr ei ddisgwyl gan Silures, dywedodd y cyd-berchennog Daf Andrews: “Bydd Silures yn gain, o ansawdd uchel, ond yn gwbl hygyrch ar yr un pryd. Bydd rhywbeth at ddant pawb, p’un a ydych yn ymweld ar ôl cerdded y ci am goctel ar ein teras neu i ddathlu eich 25ain pen-blwydd priodas. Er bod y bwyty’n cynnig bwyd drwy’r dydd, sy’n cynnwys amrywiaeth o brydau clasurol ac unigryw, bydd y bar yn cael ei yrru gan goctels, gwinoedd premiwm, a chwrw casgen.

“Dod adref ydw i, ac mae’n gartref newydd i Andrei. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddod â Silures i’r Rhath ac rydyn ni wrth ein boddau i agor fis nesaf yng Nghaerdydd.”

Gallwch archebu o ddydd Gwener 28 Ebrill. Am ragor o wybodaeth ac i wneud archeb, ewch i silures-amh.com.