Neidio i'r prif gynnwys

Beth sy'n Newydd yng Nghaerdydd ar gyfer 2023

1 Mawrth 2023


 

Wrth i fusnesau ar draws y ddinas wella yn dilyn pandemig Covid-19, gadewch i ni edrych ymlaen ar yr hyn sydd naill ai’n cael ei ddatblygu neu’n agor yn 2023 a thu hwnt.

 

Datblygiadau Newydd Cyffrous

Mae datblygiadau mawr ar draws y ddinas, a gyhoeddwyd gan Gyngor Caerdydd yn 2022, yn symud ymlaen gan gynnwys;

  • Bae Caerdydd: Canolfan y Ddraig Goch/Neuadd y Sir – caiff ei disodli gyda datblygiad cymysg i gynnwys Arena gydag 17K o seddi, gwesty/gwestai. Dyddiad agor disgwyliedig ar gyfer Arena Caerdydd yw 2026.
  • Mae dau atyniad awyr agored allweddol yn gofyn am gymeradwyaeth i’w lleoli ym Mae Caerdydd.
  • Mae adfywiad rhwydwaith camlesi yn Ffordd Churchill i greu mannau agored gwyrdd newydd ar y gweill.
  • Pentref Chwaraeon Rhyngwladol – gweithgareddau newydd gan gynnwys felodrom, atyniad antur, cylched dolen ar gyfer beicio / rhedeg / llafnau rholio, siop feiciau, weiren wib ac ati. Bydd y Felodrom yn agor yn 2023, wedi’i adleoli o Faendy. Mae hyn yn cryfhau’r cynnig ochr yn ochr â chanolfan rafftio Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd ac Arena Iâ.
  • Cwr y Ddinas i’w gwblhau yn 2023
  • Rhan 1 a 2 o brosiect Cledrau Croesi Caerdydd – cynnig cysylltiadau tram/rheilffordd newydd rhwng canol y ddinas a Bae Caerdydd sy’n cynnig mynediad cyflym a hawdd i gyrchfan glan môr Caerdydd yng Nghei’r Fôr-forwyn.

 

Achrediad

Mae sawl lleoliad yn buddsoddi i ateb gofynion cleientiaid yn y dyfodol. Mae targedau cynaliadwyedd a charbon sero net yn faes pwnc y mae mwy a mwy o fusnesau yn adolygu eu harferion busnes ynddo ond hefyd y ffordd y gallant fod yn fwy cynaliadwy i’w galluogi i fod yn fwy cystadleuol yn y farchnad.

 

Aelodaeth o MIA

Cwrdd yng Nghaerdydd/Gwesty’r Angel/Stadiwm Dinas Caerdydd/Compass Group/Holiday Inn Canol Dinas Caerdydd/Gwesty a Sba’r Mercure Holland House Caerdydd.

Mae Gwesty’r Gyfnewidfa Lo yn aelod newydd ac wedi’i achredu gan AIM

 

Prifddinas Werdd

Mae Caerdydd wedi cael ei rhestru fel un o brifddinasoedd mwyaf gwyrdd Ewrop. Mae Caerdydd yn y pedwerydd safle o flaen Llundain, Belfast, Caeredin gyda 37 o fannau gwyrdd, yn cynnwys 18 parc, tair gardd, pum ardal bywyd gwyllt, tri maes chwarae, tair coedwig a thri chorff dŵr. Wrth gymharu yn erbyn ei phoblogaeth mae ganddi 5.54 parc i bob 100,000 o bobl. O ran natur ac ardaloedd bywyd gwyllt Caerdydd sydd â’r ganran uchaf fesul 100,000 o boblogaeth o’r deg uchaf, sef 1.54. Mae hefyd yn sgorio’n uchel ar gyrff dŵr – fel Afon Taf – hefyd 1.54.

Mae astudiaeth gan Drinking Straw wedi dadansoddi nifer y parciau, gerddi, ardaloedd bywyd gwyllt, coedwigoedd, meysydd chwarae a chyrff dŵr o’i gymharu â maint prifddinasoedd Ewrop i weld pa fannau sydd y mwyaf gwyrdd fesul 100,000 o bobl.

Dinas Coed

Caerdydd yw’r ddinas gyntaf yng Nghymru i gael ei henwi’n Ddinas Goed y Byd i gydnabod rhaglen

Plannu Coed, Coed Caerdydd, Cyngor Caerdydd a’r nod yw cynyddu gorchudd canopi coed yn y ddinas i 25% erbyn 2030. Dim ond un elfen fach yw hon o strategaeth Un Blaned Caerdydd.

Nod rhaglen Dinasoedd Coed y Byd, a sefydlwyd gan sefydliad cadwraeth ac addysg dielw, The Arbor Day Foundation, yw creu mwy o fannau gwyrdd mewn ardaloedd trefol drwy gydnabod dinasoedd sy’n gwneud hyn yn dda.

 

Llety

Mae Gwesty’r Parador, busnes teuluol, sydd newydd ei agor, wedi bod yn derbyn sylw mawr yn y cyfryngau.

Mae gan y gwesty cain mewn steil Sbaenaidd 9 ystafell wely ac mae’n cynnwys teils addurnedig, pennau gwelyau mawreddog a chaeadau ffenestri. Mae’r gwesty gerllaw busnes arall y teulu yng Nghaerdydd: y bwyty rhagorol Asador 44 a rownd y gornel o Bar 44, pob un ar thema Sbaen ac wedi ennill gwobrau.

Mae sawl datblygiad o fflatiau wedi’u gwasanaethu yn mynd yn eu blaen a bydd y rhain yn fath arall o lety i’r rhai sy’n aros yn y ddinas. Mae Urban Space a Staybridge Apartments eisoes yn cynnig y math hwn o lety.

Gwesty fflatiau newydd mewn adeilad rhestredig Gradd 2 (1886) yn Siambrau’r Farchnad, Heol Eglwys Fair – caniatâd i ddarparu gwesty fflatiau â 52 ystafell wely.

Atyniadau a Gweithgareddau Newydd i Grwpiau

Mae Distyllfa Jin Castell Hensol ar gyrion Caerdydd wedi ehangu ei ystod o deithiau a sesiynau blasu i hyd at 150 o bobl drwy’r flwyddyn. Mae’n cynnwys gweithgaredd adeiladu tîm a dosbarthiadau meistr.

Bar dartiau cymdeithasol Flight Club yn Heol Eglwys Fair gyda 15 ardal chwarae, 4 bar a theras bwyd, coctels a bwyd.

Nid yw Roxy Lanes yn Heol y Frenhines yn cynnig bowlio yn unig ond hefyd pŵl Americanaidd a chwrlo iâ a rhwydi batio.

Mae bwyty a bar jin The Welsh House sydd newydd agor ar y Stryd Fawr yn rhoi ‘talu teyrnged i ddiwylliant Cymru ac mae ‘na thema rygbi clir ac mae’n cefnogi cyflenwyr o Gymru.

Bariau a bwytai newydd: Coppa Club ‘Townhouse’ a Giggling Squid yn yr Ais.

Mae arddangosfa bwyd Cymreig wedi agor yn yr Aes sy’n cynnwys amrywiaeth o gynhyrchion bwyd a diod i gyd wedi eu gwneud yng Nghymru

Mae canolfan ddringo Boulders yn agor ail ganolfan yng Nghaerdydd yng Nghroes Cwrlwys ar gyrion gorllewinol y ddinas gyda mynediad rhwydd i’r M4.  Bydd y gampfa ddringo newydd yn cynnwys waliau dringo meini mawr, gofod hyfforddi ar gyfer adeiladu tîm ac ardal wylio fawr a chaffi.

Bydd safle hen amgueddfa Dr Who ym Mae Caerdydd yn cael ei drawsnewid yn llys bwyd drwy’r flwyddyn sy’n cynnwys ceginau bwyd stryd a dau far. Bydd yn lletya hyd at 1000 ac yn cynnwys tair ardal fwyta dan do ac ar agor ym mis MEHEFIN 2023. Bydd Tiger Yard yn cael ei ddatblygu gan DEPOT, y cwmni llwyddiannus sydd wedi hen ennill ei blwyf, sy’n cynnig lleoliadau anarferol ar gyfer digwyddiadau a phrofiadau cynrychiolwyr yn y ddinas.

Mae’r gofod digwyddiadau poblogaidd, DEPOT Caerdydd, yn symud i safle mwy yn y ddinas. Hwn yw lleoliad digwyddiadau warws annibynnol mwyaf Caerdydd. Mae’n symud i Heol Curran sy’n cynnig 30,000 troedfedd sgwâr o ofod gan gynyddu capasiti’r lleoliad o 1600 i 2500. Bydd y lleoliad newydd yn parhau i gynnig bwyd stryd a bar ‘speakeasy’ ond bydd hefyd yn cynnig, am y tro cyntaf, ofod ar wahân gyda chapasiti llai gan gynnig rhywfaint o hyblygrwydd.

Disgwylir iddo agor Mehefin 2023.

DEPOT sydd hefyd y tu ôl i far a chegin drwy’r dydd newydd, ‘Outpost’, a fydd yn ymuno â busnesau eraill yn y Laundry Quarter, Pontcanna.  Bydd y cyfleuster hefyd yn cynnig gofod ar y llawr cyntaf ar gyfer 16 ar gyfer bwyta preifat neu ofod cyfarfod.

Teithiau

Mae Taith Blasu Caerdydd yn ôl yn 2023 gan gynnig dyddiadau taith wythnosol ynghyd â digwyddiadau arbennig ad hoc drwy’r flwyddyn. Gwrandewch ar y podlediad newydd ar eu gwefan.

 

Digwyddiadau

  • • Mae rhaglen ddigwyddiadau Castell Caerdydd yn cynnwys cyfres o gyngherddau proffil uchel eleni.
    • Mae DEPOT Caerdydd yn ehangu eu gŵyl undydd gyda chyfres o gyngherddau yng Nghastell Caerdydd.
    • Yn 2023 bydd 40fed pen-blwydd Canwr y Byd BBC Caerdydd
    • Yn 2023 cafodd Caerdydd ei dewis i fod yn Ddinas Gomedi’r BBC gyda pherfformiadau a gweithdai ar gyfer awduron.

                                   

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Faye Tanner, Pennaeth Masnachol Digwyddiadau Busnes a thîm Cwrdd yng Nghaerdydd:

hello@meetcardiff.com

cwrddcaerdydd.com

@CwrddCaerdydd

#CwrddCaerdydd