Beth wyt ti'n edrych am?
Beth sy'n Newydd yng Nghaerdydd ar gyfer 2023
1 Mawrth 2023
Wrth i fusnesau ar draws y ddinas wella yn dilyn pandemig Covid-19, gadewch i ni edrych ymlaen ar yr hyn sydd naill ai’n cael ei ddatblygu neu’n agor yn 2023 a thu hwnt.
Datblygiadau Newydd Cyffrous
Mae datblygiadau mawr ar draws y ddinas, a gyhoeddwyd gan Gyngor Caerdydd yn 2022, yn symud ymlaen gan gynnwys;
- Bae Caerdydd: Canolfan y Ddraig Goch/Neuadd y Sir – caiff ei disodli gyda datblygiad cymysg i gynnwys Arena gydag 17K o seddi, gwesty/gwestai. Dyddiad agor disgwyliedig ar gyfer Arena Caerdydd yw 2026.
- Mae dau atyniad awyr agored allweddol yn gofyn am gymeradwyaeth i’w lleoli ym Mae Caerdydd.
- Mae adfywiad rhwydwaith camlesi yn Ffordd Churchill i greu mannau agored gwyrdd newydd ar y gweill.
- Pentref Chwaraeon Rhyngwladol – gweithgareddau newydd gan gynnwys felodrom, atyniad antur, cylched dolen ar gyfer beicio / rhedeg / llafnau rholio, siop feiciau, weiren wib ac ati. Bydd y Felodrom yn agor yn 2023, wedi’i adleoli o Faendy. Mae hyn yn cryfhau’r cynnig ochr yn ochr â chanolfan rafftio Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd ac Arena Iâ.
- Cwr y Ddinas i’w gwblhau yn 2023
- Rhan 1 a 2 o brosiect Cledrau Croesi Caerdydd – cynnig cysylltiadau tram/rheilffordd newydd rhwng canol y ddinas a Bae Caerdydd sy’n cynnig mynediad cyflym a hawdd i gyrchfan glan môr Caerdydd yng Nghei’r Fôr-forwyn.
Achrediad
Mae sawl lleoliad yn buddsoddi i ateb gofynion cleientiaid yn y dyfodol. Mae targedau cynaliadwyedd a charbon sero net yn faes pwnc y mae mwy a mwy o fusnesau yn adolygu eu harferion busnes ynddo ond hefyd y ffordd y gallant fod yn fwy cynaliadwy i’w galluogi i fod yn fwy cystadleuol yn y farchnad.
Aelodaeth o MIA
Cwrdd yng Nghaerdydd/Gwesty’r Angel/Stadiwm Dinas Caerdydd/Compass Group/Holiday Inn Canol Dinas Caerdydd/Gwesty a Sba’r Mercure Holland House Caerdydd.
Mae Gwesty’r Gyfnewidfa Lo yn aelod newydd ac wedi’i achredu gan AIM
Prifddinas Werdd
Mae Caerdydd wedi cael ei rhestru fel un o brifddinasoedd mwyaf gwyrdd Ewrop. Mae Caerdydd yn y pedwerydd safle o flaen Llundain, Belfast, Caeredin gyda 37 o fannau gwyrdd, yn cynnwys 18 parc, tair gardd, pum ardal bywyd gwyllt, tri maes chwarae, tair coedwig a thri chorff dŵr. Wrth gymharu yn erbyn ei phoblogaeth mae ganddi 5.54 parc i bob 100,000 o bobl. O ran natur ac ardaloedd bywyd gwyllt Caerdydd sydd â’r ganran uchaf fesul 100,000 o boblogaeth o’r deg uchaf, sef 1.54. Mae hefyd yn sgorio’n uchel ar gyrff dŵr – fel Afon Taf – hefyd 1.54.
Mae astudiaeth gan Drinking Straw wedi dadansoddi nifer y parciau, gerddi, ardaloedd bywyd gwyllt, coedwigoedd, meysydd chwarae a chyrff dŵr o’i gymharu â maint prifddinasoedd Ewrop i weld pa fannau sydd y mwyaf gwyrdd fesul 100,000 o bobl.

Dinas Coed
Caerdydd yw’r ddinas gyntaf yng Nghymru i gael ei henwi’n Ddinas Goed y Byd i gydnabod rhaglen
Plannu Coed, Coed Caerdydd, Cyngor Caerdydd a’r nod yw cynyddu gorchudd canopi coed yn y ddinas i 25% erbyn 2030. Dim ond un elfen fach yw hon o strategaeth Un Blaned Caerdydd.
Nod rhaglen Dinasoedd Coed y Byd, a sefydlwyd gan sefydliad cadwraeth ac addysg dielw, The Arbor Day Foundation, yw creu mwy o fannau gwyrdd mewn ardaloedd trefol drwy gydnabod dinasoedd sy’n gwneud hyn yn dda.
Llety
Mae Gwesty’r Parador, busnes teuluol, sydd newydd ei agor, wedi bod yn derbyn sylw mawr yn y cyfryngau.
Mae gan y gwesty cain mewn steil Sbaenaidd 9 ystafell wely ac mae’n cynnwys teils addurnedig, pennau gwelyau mawreddog a chaeadau ffenestri. Mae’r gwesty gerllaw busnes arall y teulu yng Nghaerdydd: y bwyty rhagorol Asador 44 a rownd y gornel o Bar 44, pob un ar thema Sbaen ac wedi ennill gwobrau.
Mae sawl datblygiad o fflatiau wedi’u gwasanaethu yn mynd yn eu blaen a bydd y rhain yn fath arall o lety i’r rhai sy’n aros yn y ddinas. Mae Urban Space a Staybridge Apartments eisoes yn cynnig y math hwn o lety.
Atyniadau a Gweithgareddau Newydd i Grwpiau
Mae Distyllfa Jin Castell Hensol ar gyrion Caerdydd wedi ehangu ei ystod o deithiau a sesiynau blasu i hyd at 150 o bobl drwy’r flwyddyn. Mae’n cynnwys gweithgaredd adeiladu tîm a dosbarthiadau meistr.
Bar dartiau cymdeithasol Flight Club yn Heol Eglwys Fair gyda 15 ardal chwarae, 4 bar a theras bwyd, coctels a bwyd.

Nid yw Roxy Lanes yn Heol y Frenhines yn cynnig bowlio yn unig ond hefyd pŵl Americanaidd a chwrlo iâ a rhwydi batio.

Mae bwyty a bar jin The Welsh House sydd newydd agor ar y Stryd Fawr yn rhoi ‘talu teyrnged i ddiwylliant Cymru ac mae ‘na thema rygbi clir ac mae’n cefnogi cyflenwyr o Gymru.

Bariau a bwytai newydd: Coppa Club ‘Townhouse’ a Giggling Squid yn yr Ais.
Mae arddangosfa bwyd Cymreig wedi agor yn yr Aes sy’n cynnwys amrywiaeth o gynhyrchion bwyd a diod i gyd wedi eu gwneud yng Nghymru

Teithiau
Mae Taith Blasu Caerdydd yn ôl yn 2023 gan gynnig dyddiadau taith wythnosol ynghyd â digwyddiadau arbennig ad hoc drwy’r flwyddyn. Gwrandewch ar y podlediad newydd ar eu gwefan.
Digwyddiadau
- • Mae rhaglen ddigwyddiadau Castell Caerdydd yn cynnwys cyfres o gyngherddau proffil uchel eleni.
• Mae DEPOT Caerdydd yn ehangu eu gŵyl undydd gyda chyfres o gyngherddau yng Nghastell Caerdydd.
• Yn 2023 bydd 40fed pen-blwydd Canwr y Byd BBC Caerdydd
• Yn 2023 cafodd Caerdydd ei dewis i fod yn Ddinas Gomedi’r BBC gyda pherfformiadau a gweithdai ar gyfer awduron.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Faye Tanner, Pennaeth Masnachol Digwyddiadau Busnes a thîm Cwrdd yng Nghaerdydd:
cwrddcaerdydd.com
@CwrddCaerdydd
#CwrddCaerdydd