Neidio i'r prif gynnwys

Mae Taith Flasu Caerdydd yn ôl ar fwydlen Loving Welsh Food

19 Hydref 2022


 

Mae Loving Welsh Food yn falch iawn o gyhoeddi bod Taith Flasu poblogaidd Caerdydd yn ôl ar y fwydlen – yn rhedeg bob dydd Sadwrn o 15 Hydref 2022. Mae’r daith yn ffordd wych o brofi Caerdydd, blasu amrywiaeth o fwydydd a diodydd Cymreig anhygoel, dysgu rywfaint o hanes a mwynhau cwmni arbennig  Mae agwedd gymdeithasol y daith cyn bwysiced â’r bwyd a’r dio !

“Roedd taith Blasu Caerdydd yn wych.  Mae’n daith sydd â rhywbeth i bawb; rhywfaint o hanes, taith gerdded hamddenol hyfryd, a’r mwynhad o gyfarfod pobl newydd sydd â diddordeb cyffredin -bwyd!”

https://lovingwelshfood.uk/public-cardiff-tasting-tour

Mae 7 arhosfa flasu i gyd, gan gynnwys lleoliad newydd – Daffodil – Bar hamddenol, bwyty bwyta cain a gardd gudd yng nghanol y ddinas. Mae Cwmni Daffodil yn hyrwyddo cyflenwyr lleol o Gymru gan ddefnyddio cyflenwyr crefft bach y gellir dod o hyd i lawer ohonynt ym Marchnad Caerdydd.  Bydd y gwesteion yn mwynhau blasu  mojito rym Barti Ddu nodweddiadol Daffodil, gyda rhai samplau blasus o chorizo gyda phaprika a Chaws Cenarth – caws llaeth defaid hufennog, bara lleol a chawsiau.

Ar y fwydlen, picau ar y maen cynnes, te Cwtch, pizza Ffwrnes, cwrw a seidr Cymreig, bara lawr a chocos, ffagots a phasteiod Clarks.  Hefyd parciau hardd, adeiladau mawreddog a thirnodau nodedig gan gynnwys Castell Caerdydd a Stadiwm Principality, ‘cartref rygbi Cymru’.

Mae ein tywyswyr lleol Loving Welsh Food yn cynnig taith bersonol o’r ddinas, ei phensaernïaeth, ei hanes a’i phobl.

TripAdvisor: “Wedi cael amser mor fendigedig gyda Siân ar ein taith bwyd yn cerdded o gwmpas Caerdydd! Roedd y ddau ohonom ni’n cael trio bwydydd gwahanol nad oedd (Sean sy’n dod o Ganada,) erioed wedi clywed amdanyn nhwc nad oeddwn i, gyda rhieni o Gymru erioed wedi clywed amdanyn nhw hefyd! Roedd yn brofiad hwyliog gan ein bod ni’n gymaint o ‘ffŵdis’! Cawson ni gerdded o gwmpas dinas Caerdydd a dod i’w hadnabod ychydig yn well, er mwyn dysgu mwy am yr hanes. Roedd Siân mor siriol a hyfryd; roedd yr agwedd gymdeithasol wir wedi coroni’r daith i ni!

I gael rhagor o wybodaeth – cysylltwch â sian@lovingwelshfood.uk

07810 335 137 www.lovingwelshfood.uk