Neidio i'r prif gynnwys

Cwmpawd Cymru – hyrwyddo rhagoriaeth coginio lleol

Mae’r ffordd y mae pobl yn ystyried bwyd a diod yn newid yn gyflym ac yn ddramatig.  Mae effeithiau pandemig COVID-19 a ffocws cynyddol ar yr effaith rydym yn ei chael ar yr amgylchedd yn newid ymddygiad.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, bu cynnydd gwirioneddol mewn undod, ysbryd cymunedol ac angerdd am ‘wneud ein rhan’ i ddiogelu’r blaned.  Gyda hyn, daeth awydd gwell i gefnogi’r lleol: busnesau lleol, cyflenwyr lleol a phobl leol.

Cafwyd gwerthfawrogiad o’r newydd o’r sin fwyd leol yng Nghaerdydd a brwdfrydedd llewyrchus cynhyrchwyr, cyflenwyr a manwerthwyr bwyd lleol.

Cydnabu Compass Group UK & Ireland y newid hwn, ac yn gynharach eleni sefydlwyd Compass Cymru fel cynnig lleol i gefnogi ei bortffolio Cymreig. Gyda’r newid hwn daeth ffocws o’r newydd ar Gymru ac ar ddathlu manteision niferus cyrchu rhanbarthol a chefnogi’r economïau a’r cymunedau lleol yr ydym yn gweithredu ynddynt.

Gan ein bod yn darparu’r gorau o fwyd a diod i ystod eang o fusnesau a chwsmeriaid, mae’n gyfle gwych i arddangos bwtri naturiol Cymru drwy weithio fwyfwy gyda mwy o gyflenwyr o Gymru. Rydym wedi ymuno â’r cyflenwyr o Gaerdydd, Fabulous Welsh Cakes, ac yn defnyddio eu pice ar y mân blasus fel cynnyrch o fri ym mhob un o’n digwyddiadau.

Rydym yn falch o hyrwyddo nifer o fusnesau lleol arloesol o bob cwr o Gymru, megis diodydd Flawsome, siocled Wickedly Welsh, a Puffin Produce. Mae hyn nid yn unig yn cefnogi’r gadwyn gyflenwi leol, ond gall hefyd ymestyn eu cyrhaeddiad ledled y DU drwy’r sefydliad ehangach yn y DU.

Rydym hefyd wedi bod yn gweithio’n agos gyda’n Llysgennad Coginio, y Cogydd Bryn Williams, i sicrhau bod ysbryd bwyd a diod Cymru yn parhau i fod yn flaenllaw yn y cynnig busnes.  Mae hyn yn rhywbeth y mae’n angerddol amdano ac yn dod â bywyd iddo mewn ffordd unigryw.

Mae ein partneriaid yn cynnwys lleoliadau eiconig yng Nghymru, gan gynnwys Stadiwm Principality a Stadiwm Dinas Caerdydd, fel y gall trefnwyr cynadleddau ac ymwelwyr ddisgwyl profiad bwyd Cymreig go iawn.  Rydym yn falch o gynnig blas ac ansawdd o’r safon uchaf iddynt, gyda chynhwysion lleol a thymhorol wrth wraidd ein holl fwydlenni.

Gyda hyblygrwydd cwmni lleol, a chryfder busnes byd-eang, mae Compass Cymru yn dathlu tarddiadau Cymreig ac yn hyrwyddo cynnyrch ffres, tymhorol, lleol a chynaliadwy. Rwy’n llawn cyffro o fod yn chwarae rhan yn y dull rhanbarthol hwn – gan gadw agenda Cymru yn flaenllaw ac yn ganolog ym mhopeth a wnawn.

Jane Byrd, Managing Director, Compass Cymru