Neidio i'r prif gynnwys

Y Cyngor i arwain y ffordd mewn ymgyrch i gyflawni Caerdydd carbon niwtral erbyn 2030

Mae’r Strategaeth Un Blaned – sy’n nodi cynlluniau Cyngor Caerdydd i ddarparu awdurdod lleol carbon niwtral erbyn 2030 – wedi’i chyhoeddi a’i chymeradwyo gan Gabinet Cyngor Caerdydd.

Mae’r Cyngor wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn cyfrifo faint o nwyon tŷ gwydr (a fynegir fel allyriadau carbon deuocsid cyfatebol (CO2e)) mae’n cynhyrchu, tra’n edrych ar ffyrdd o leihau allyriadau.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod prifddinas Cymru yn gyfrifol am 1,626,056 tunnell o Garbon Deuocsid (CO2e) bob blwyddyn, a bod tua 184,904 tunnell yn cael eu cynhyrchu gan y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd: “Nid oes fawr o amheuaeth mai newid yn yr hinsawdd yw her fyd-eang ddiffiniol ein cenhedlaeth. Datganodd y Cyngor hwn Argyfwng Hinsawdd yn 2019, ac ers hynny rydym wedi bod yn gweithio’n galed i lunio strategaeth sy’n nodi sut y bydd y Cyngor yn dod yn garbon niwtral erbyn 2030.

“Dros y 5 mlynedd diwethaf mae’r weinyddiaeth hon wedi llwyddo i leihau allyriadau carbon Cyngor Caerdydd o drydan gan 70%. Fel rhan o’n strategaeth Un Blaned, mae gennym brosiectau sydd eisoes ar waith neu’n barod i fynd a fydd, pan gânt eu gweithredu’n llawn, yn lleihau ein hallyriadau gan 57% erbyn 2030. Mae gennym hefyd gyfres o gynigion, yr ydym yn awr yn datblygu achosion busnes ar eu cyfer, a fydd, yn ein barn ni, yn cyflawni Cyngor carbon niwtral erbyn 2030.

“Yn ddelfrydol, rydym am i’r ddinas gyfan fod yn garbon niwtral erbyn 2030. I wneud hynny, gwyddom fod yn rhaid inni arwain drwy esiampl. Dyma’r peth iawn i’w wneud, a gwyddom mai dyna y mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghaerdydd am inni ei wneud.

“Ein cynllun yw dangos yr hyn y gellir ei gyflawni a gwneud ein gorau i ddod â’n trigolion, busnesau a’r sector cyhoeddus ynghyd ar y daith hon, i greu’r ddinas werddach, lanach ac iachach yr ydym i gyd ei heisiau. Mae lleihau cyfanswm yr allyriadau carbon sy’n cael eu creu gan y ddinas yn her fawr. Mae’r Cyngor yn achub y blaen ar hynny hefyd. Rydym yn cyflwyno llu o fesurau a allai, os cânt eu gweithredu’n llawn, leihau cyfanswm allyriadau’r ddinas gan 22% erbyn 2030. Mae trafnidiaeth yn cyfrif am 41% o’r holl allyriadau carbon sy’n cael eu creu yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Dyma’r cynhyrchydd carbon unigol mwyaf yn y ddinas. Dyna pam mae ein Papur Gwyn Trafnidiaeth wedi’i anelu’n glir at leihau’r defnydd o geir preifat tra’n hybu trafnidiaeth gyhoeddus a defnydd o deithio llesol. Bydd hyn yn allweddol i leihau allyriadau’r ddinas.”

Ymgynghorwyd â’r cyhoedd, busnesau, rhanddeiliaid allweddol ac ieuenctid Caerdydd ar y Strategaeth Un Blaned ddrafft ddiwedd 2020 a dechrau 2021 a nododd y canlyniadau, ochr yn ochr â dadansoddiad data carbon y Cyngor, ddwy flaenoriaeth:

  • lleihau’r defnydd o ynni a’r ddibyniaeth ar danwyddau ffosil; a
  • chynyddu nifer y coed sy’n cael eu plannu tra’n gwella bioamrywiaeth ledled Caerdydd.

Mae canlyniadau’r ymgynghoriad hwnnw bellach wedi’u bwydo i’r strategaeth derfynol ac mae nifer o argymhellion wedi’u cyflwyno i Gabinet Cyngor Caerdydd yn ei gyfarfod ddydd Iau, 13 Hydref, gan gynnwys:

  • Cymeradwyo’r Strategaeth Un Blaned;
  • Cytundeb i fabwysiadu’r cynlluniau gweithredu yn y strategaeth a gynlluniwyd i leihau allyriadau carbon y Cyngor; ac
  • I Gyngor Caerdydd lofnodi Addewid Sero Net y DU fel mynegiant cenedlaethol o ymrwymiadau’r awdurdod.

Ychwanegodd y Cynghorydd Michael: “Er mwyn cyflawni ein nod o fod yn Gyngor carbon niwtral erbyn 2030, roedd angen i ni ddeall effaith carbon yr holl wasanaethau y mae’r Cyngor yn eu darparu. Mae’r gwaith hwn o fodelu’r llinell sylfaen bellach wedi’i gwblhau ac mae gwaith eisoes ar y gweill i ddarparu atebion a allai, yn ein barn ni, leihau ein hallyriadau yn y tymor canolig gan 57%.

“Fodd bynnag, mae llawer mwy o waith i’w wneud i ddatblygu ein cynigion ar gyfer atebion ‘tymor canolig i hirdymor’ y bydd eu hangen i ddod yn Gyngor carbon niwtral erbyn 2030.”

 

Mae Cyngor Caerdydd yn cynhyrchu 184,904 tunnell o CO2e bob blwyddyn. Mae’r ôl troed carbon hwn yn dod o dan dri chategori – ‘allyriadau a achosir’, ‘allyriadau uniongyrchol’ ac ‘allyriadau anuniongyrchol’.

Allyriadau a Achosir – 163,441 tunnell o CO2e (86% o gyfanswm y Cyngor)

Mae cwmpas ‘allyriadau a achosir’ wedi’i rannu’n ddwy brif adran, caffael cynhyrchion a gwasanaethau a theithiau cymudo staff i’r gwaith. Mae allyriadau a achosir yn cyfrif am 163,441 tunnell o CO2e a ollyngir. Dyma 86% o gyfanswm yr allyriadau carbon a gynhyrchir gan y Cyngor. Mae’r 86% hwn wedi’i rannu’n ddau gategori, gyda chaffael yn cyfrif am 94% a staff yn cymudo i’r gwaith yn cynhyrchu 6% o allyriadau carbon.

Mae elfen gaffael y categori hwn yn enfawr ac mae’n cynnwys y rhan fwyaf o wasanaethau’r Cyngor gan gynnwys rheoli gwastraff; cludiant teithwyr; prosiectau adeiladu; darpariaeth gofal cymdeithasol; cynnal a chadw priffyrdd; arlwyo; digwyddiadau; darpariaeth TGCh a mwy.

Er mwyn mynd i’r afael â’r allyriadau carbon o ‘gaffael’, a theithiau cymudo staff, mae cynlluniau’r Cyngor yn cynnwys:

  • Cynnal adolygiad gwraidd i’r brig o’r hyn a brynwn, gan nodi’r meysydd sy’n cynhyrchu allyriadau carbon a dod o hyd i ddewisiadau amgen.
  • Darparu strategaeth bron dim carbon ar gyfer holl adeiladau Cyngor, ysgolion a thai cymdeithasol newydd o 2024.
  • Rhoi allyriadau carbon wrth wraidd ein penderfyniadau ar ein hystâd bresennol, gan gynnwys adnewyddu a gwaredu adeiladau.
  • Canolbwyntio ar yr economi gylchol – system economaidd sydd wedi’i chynllunio i drawsnewid ein heconomi taflu i ffwrdd yn un lle caiff gwastraff ei ddileu, caiff adnoddau eu hailddefnyddio, mae natur yn cael ei hadfywio a defnyddir ffynonellau ynni adnewyddadwy.
  • Annog a ffafrio cyflenwyr carbon isel yn y broses dendro ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau newydd.
  • Datblygu a gweithredu polisi – lle mae’n ymarferol yn weithredol – i staff weithio’n rhannol yn y swyddfa ac yn rhannol gartref – a elwir yn ‘weithio hybrid’.
  • Annog mwy o staff i deithio i’r gwaith drwy feicio, cerdded neu drafnidiaeth gyhoeddus.
  • Datblygu cynllun ar gyfer gweithwyr sy’n annog prynu cerbydau trydan.

Allyriadau Uniongyrchol y Cyngor – 14,745 tunnell o CO2e (8% o gyfanswm y Cyngor)

Mae hyn yn cynnwys CO2e sy’n cael ei ollwng o foeleri nwy mewn eiddo Cyngor a phibellau mwg cerbydau, sy’n cyfrif am 14,745 tunnell (8%) o gyfanswm y CO2e a gynhyrchir gan y Cyngor. Mae’r 8% hwn wedi’i rannu’n ddwy is-gategori, CO2e sy’n cael ei gynhyrchu o nwy naturiol (68%) a’r CO2e sy’n cael ei gynhyrchu o gerbydau’r Cyngor (32%).

Mae cynlluniau’r Cyngor i leihau hyn yn cynnwys:

  • Cyflwyno cynllun ôl-osod sy’n defnyddio ynni’n effeithlon yn adeiladau’r Cyngor a sicrhau bod unrhyw adeiladau newydd yn cael eu comisiynu i safonau bron yn ddi-garbon.
  • Symud fflyd y Cyngor i ffwrdd o gerbydau diesel i gerbydau trydan a cherbydau tanwydd glân eraill.

Allyriadau Anuniongyrchol – 11,373 tunnell o CO2e (6% o gyfanswm y Cyngor)

Mae hyn yn cynnwys defnyddio trydan sy’n cyfrif am 11,373 CO2e tunnell sy’n cael ei allyrru gan y Cyngor. Dyma 6% o gyfanswm allyriadau carbon y Cyngor. Mae’r 6% hwn wedi’i rannu’n ddwy is-gategori gyda 77% o CO2e yn cael ei ollwng drwy drydan a ddefnyddir yn adeiladau’r Cyngor a 23% o CO2e yn cael ei gynhyrchu drwy oleuadau stryd.

Mae cynlluniau’r Cyngor i leihau hyn yn cynnwys:

  • Disodli 27,750 o oleuadau stryd mewn ardaloedd preswyl gyda goleuadau LED, lleihau costau ynni gan £500,000 y flwyddyn a lleihau allyriadau carbon y ddinas gan 836 tunnell y flwyddyn. Mae cam olaf y prosiect hwn yn cael ei gyflawni ar hyn o bryd.
  • Gwneud y mwyaf o ynni adnewyddadwy uniongyrchol i bweru adeiladau’r Cyngor a cherbydau’r Cyngor.
  • Darparu cyfres o brosiectau ynni adnewyddadwy mawr fydd yn bwydo adeiladau’n uniongyrchol a/neu fydd yn gallu gwefru cerbydau trydan yn uniongyrchol.

Allyriadau carbon ar draws y ddinas 

Gan ddefnyddio data llywodraeth y DU, aseswyd bod Caerdydd fel dinas yn cynhyrchu 1,626,056 tunnell o nwyon tŷ gwydr (CO2e) bob blwyddyn. Mae cyfanswm yr allbwn carbon ar draws y ddinas yn dangos bod:

  • trafnidiaeth yn cyfrif am ychydig o dan hanner yr holl allyriadau yn y Ddinas – 41%;
  • eiddo domestig sy’n cyfrif am 27%;
  • diwydiant 14%;
  • masnach 12%; a’r
  • sector cyhoeddus 6%.

Mae ffigur y ddinas gyfan yn cael ei gyfrifo fel carbon a grëwyd o fewn ffin ffisegol y ddinas. Mae cyfanswm allyriadau’r Cyngor yn fwy manwl ac yn cynnwys allyriadau a grëwyd y tu allan i’r ddinas y mae’r Cyngor yn gyfrifol amdanynt. Mae enghreifftiau’n cynnwys y trydan y mae’n ei ddefnyddio a grëir mewn gorsafoedd pŵer y tu allan i’r ddinas, y staff sy’n cymudo o’r tu allan i Gaerdydd, a chyflenwi a darparu nwyddau a gwasanaethau y mae’r awdurdod lleol yn eu prynu o’r tu allan i Gaerdydd.

Mae cynlluniau’r Cyngor i helpu i leihau allyriadau gan dros un rhan o bump (22%), yn cynnwys:

  • Mynd i’r afael ag achos mwyaf y ddinas o allyriadau carbon drwy gyflawni ei strategaeth drafnidiaeth ddeng mlynedd (Y Papur Gwyn Trafnidiaeth). Nod hyn yw lleihau’r defnydd o geir preifat gan 50% a dyblu faint o bobl sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn cerdded ac yn beicio. Gallwch ddarllen mwy am y Papur Gwyn Trafnidiaeth yma Papur Gwyn Trafnidiaeth – Cadw Caerdydd i Symud
  • Darparu system gwresogi ardal gan ddefnyddio gwres o Gyfleuster Adfer Ynni Viridor ym Mharc Trident. Bydd hyn yn darparu gwres drwy bibellau tanddaearol i adeiladau masnachol a sector cyhoeddus mawr a datblygiadau newydd ym Mae Caerdydd.
  • Datblygu strategaeth bartneriaeth gydgysylltiedig i hyrwyddo ac ehangu rhaglen ôl-osod effeithlonrwydd ynni tai ar draws pob deiliadaeth o dai sy’n targedu hyd at 2,000 o dai y flwyddyn erbyn 2024
  • Creu Coedwig Drefol Caerdydd (Coed Caerdydd) – bydd £1m o gyllid yn cael ei ddefnyddio i blannu coed ar 50 hectar o dir, gan gynyddu’r gorchudd coed yng Nghaerdydd. Mae 800 hectar arall wedi’u clustnodi ar gyfer plannu coed yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Bydd plannu mwy o goed a gwella’r seilwaith gwyrdd ledled Caerdydd yn galluogi’r ddinas i ddal CO2e.
  • Datblygu strategaeth carbon isel drwy reoliadau cynllunio ac adeiladu ar gyfer pob adeilad newydd yn y ddinas.
  • Datblygu strategaeth fwyd ar gyfer Caerdydd. Cefnogi mathau mwy lleol o gynhyrchu bwyd a fydd o fudd i’r economi leol ac yn lleihau ôl troed carbon yn y sector hwn.

Ychwanegodd y Cynghorydd Michael: “Yn bwysicaf oll, rydym yn gwybod na allwn gyflawni newid mawr yn y ddinas os ydym yn gweithredu ar ein pen ein hunain. Mae ein hymchwil a’n hymgynghoriad wedi tanlinellu pwysigrwydd cyfathrebu da, ymgyrchoedd wedi’u targedu ac ymgysylltu cyson i bwysleisio bod angen i hyn fod yn ymdrech ddinesig. Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae. Felly, mae Caerdydd Un Blaned yn ymrwymo i ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid mawr i hyrwyddo a chefnogi gweithredu ar y cyd drwy raglen newid ymddygiad.”

I wneud hyn bydd y Cyngor yn:

  • Datblygu cynllun ymgysylltu treigl i helpu pobl i ddeall y materion ac annog newid yn eu hymddygiad i fabwysiadu bywyd carbon isel.
  • Creu cynllun ymgysylltu ysgolion wedi’i dargedu i dynnu sylw at bwysigrwydd materion newid yn yr hinsawdd i blant, gan eu galluogi i fod yn genhadon a dylanwadwyr ar gyfer newid, a
  • Chryfhau ein gwaith cydweithredol presennol gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus lleol i ddwyn ynghyd ac ehangu ein cynlluniau lleihau carbon ar y cyd yn y ddinas.

Gallwch ddarllen y Ddogfen Strategaeth Un Blaned yn llawn yma www.caerdyddunblaned.co.uk