Neidio i'r prif gynnwys

Daw Cynhadledd Cytokines 2021 i Gaerdydd

Neuadd Dinas Caerdydd yn croesawu dychweliad cynadleddau mewn gwahanol fformatau yn dilyn y pandemig dinistriol.

Wrth i Gaerdydd groesawu digwyddiadau busnes yn Ă´l ar Ă´l i gyfyngiadau Covid-19 leddfu, mae llawer o ddigwyddiadau’n dod yn Ă´l ar hyn o bryd mewn fformatau gwahanol. Mae cynadleddau’n dechrau dychwelyd i’r DU yn y dull traddodiadol wyneb yn wyneb ond mae eraill, yn enwedig y rhai sydd â chynrychiolwyr rhyngwladol, yn dewis fformatau hybrid.

Mae cynhadledd feddygol ryngwladol fawr yn enghraifft o’r fath a bydd yn mynd yn ei blaen yn Neuadd Dinas Caerdydd rhwng 17 a 20 Hydref 2021 mewn fformat hybrid.  ICIS (International Cytokine & Interferon Society) yw sefydliad amlddisgyblaethol mwyaf y byd sy’n hyrwyddo ymchwil sylfaenol a chlinigol ac sy’n benodol yn ymwneud â’r rhan y mae sytocinau yn ei chwarae ym maes iechyd a chlefydau.

Esboniodd Cadeirydd y Gynhadledd, Yr Athro Simon Jones o Is-adran Heintiau ac Imiwnedd Yr Ysgol Feddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’n amser pwysig i’r gymuned ymchwil fiofeddygol ddod at ei gilydd i drafod y datblygiadau a’r mewnwelediadau diweddaraf. Bydd y cyfarfod yn cynnig fforwm rhagorol i ymchwilwyr mewn gwyddoniaeth sylfaenol ac ymchwil glinigol gyflwyno eu canfyddiadau diweddaraf ar rĂ´l sytocinau mewn heintiau, canser, alergedd a chlefydau llidus sy’n gysylltiedig â diffygion o ran imiwnedd.

“Mae’r gynhadledd hefyd yn cael ei chynnal ar adeg berthnasol iawn” ychwanega’r Athro Simon Jones: “Roedd llawer o’n cydweithwyr yn allweddol iawn wrth ddatblygu rhai o’r cyffuriau a ddefnyddiwyd wrth drin COVID-19. Mae eraill wedi helpu ar ganfyddiad barn y cyhoedd ynghylch y pandemig, megis aelodau’r Pwyllgor Trefnu Lleol, yr Athro Luke O’Neill o Goleg y Drindod Dulyn a’r Athro Iain McInnes o Brifysgol Glasgow.”

Mae’r gynhadledd wedi’i chynllunio mewn fformat hybrid, sy’n ymateb hyblyg ac arloesol i’r pandemig. Caiff y gynhadledd ei chynnal drwy stiwdio a sefydlwyd yn Neuadd Dinas Caerdydd a bydd cynrychiolwyr o bob cwr o’r byd yn mynychu gan ddefnyddio llwyfan cyfarfod rhithwir.

Mae tĂŽm Cwrdd yng Nghaerdydd, sy’n darparu gwasanaeth diduedd am ddim i drefnwyr cynadleddau, wedi bod yn gweithio ar y gynhadledd hon gyda’r trefnydd ers tair blynedd. Dwedodd y Rheolwr TĂŽm Faye Tanner: “Rydym wrth ein bodd y bydd y gynhadledd fawreddog hon yn cael ei chynnal ym mis Hydref 2021 fel y bwriadwyd, wrth i leoliadau a gwestyau yn y ddinas agor i groesawu digwyddiadau busnes yn dilyn cyfyngiadau’r pandemig”.

Diwedd

Mae tĂŽm Cwrdd yng Nghaerdydd yn uned sydd wedi’i lleoli yng Nghyngor Caerdydd sy’n hyrwyddo Caerdydd fel cyrchfan digwyddiadau busnes ac yn cynnig gwasanaeth am ddim i drefnwyr cynadleddau gan gynnwys canfod lleoliadau, dylunio rhaglen gynadledda ynghyd â gwasanaethau a chyflenwyr wrth gefn.

 

Rhagor o wybodaeth:
Faye Tanner
Cwrdd yng Nghaerdydd
hello@meetincardiff.com
T 029 2087 1846