Neidio i'r prif gynnwys

Daw Cynhadledd Cytokines 2021 i Gaerdydd

Neuadd Dinas Caerdydd yn croesawu dychweliad cynadleddau mewn gwahanol fformatau yn dilyn y pandemig dinistriol.

Wrth i Gaerdydd groesawu digwyddiadau busnes yn Ă´l ar Ă´l i gyfyngiadau Covid-19 leddfu, mae llawer o ddigwyddiadau’n dod yn Ă´l ar hyn o bryd mewn fformatau gwahanol. Mae cynadleddau’n dechrau dychwelyd i’r DU yn y dull traddodiadol wyneb yn wyneb ond mae eraill, yn enwedig y rhai sydd â chynrychiolwyr rhyngwladol, yn dewis fformatau hybrid.

Mae cynhadledd feddygol ryngwladol fawr yn enghraifft o’r fath a bydd yn mynd yn ei blaen yn Neuadd Dinas Caerdydd rhwng 17 a 20 Hydref 2021 mewn fformat hybrid.  ICIS (International Cytokine & Interferon Society) yw sefydliad amlddisgyblaethol mwyaf y byd sy’n hyrwyddo ymchwil sylfaenol a chlinigol ac sy’n benodol yn ymwneud â’r rhan y mae sytocinau yn ei chwarae ym maes iechyd a chlefydau.

Esboniodd Cadeirydd y Gynhadledd, Yr Athro Simon Jones o Is-adran Heintiau ac Imiwnedd Yr Ysgol Feddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’n amser pwysig i’r gymuned ymchwil fiofeddygol ddod at ei gilydd i drafod y datblygiadau a’r mewnwelediadau diweddaraf. Bydd y cyfarfod yn cynnig fforwm rhagorol i ymchwilwyr mewn gwyddoniaeth sylfaenol ac ymchwil glinigol gyflwyno eu canfyddiadau diweddaraf ar rĂ´l sytocinau mewn heintiau, canser, alergedd a chlefydau llidus sy’n gysylltiedig â diffygion o ran imiwnedd.

“Mae’r gynhadledd hefyd yn cael ei chynnal ar adeg berthnasol iawn” ychwanega’r Athro Simon Jones: “Roedd llawer o’n cydweithwyr yn allweddol iawn wrth ddatblygu rhai o’r cyffuriau a ddefnyddiwyd wrth drin COVID-19. Mae eraill wedi helpu ar ganfyddiad barn y cyhoedd ynghylch y pandemig, megis aelodau’r Pwyllgor Trefnu Lleol, yr Athro Luke O’Neill o Goleg y Drindod Dulyn a’r Athro Iain McInnes o Brifysgol Glasgow.”

Mae’r gynhadledd wedi’i chynllunio mewn fformat hybrid, sy’n ymateb hyblyg ac arloesol i’r pandemig. Caiff y gynhadledd ei chynnal drwy stiwdio a sefydlwyd yn Neuadd Dinas Caerdydd a bydd cynrychiolwyr o bob cwr o’r byd yn mynychu gan ddefnyddio llwyfan cyfarfod rhithwir.

Mae tĂ®m Cwrdd yng Nghaerdydd, sy’n darparu gwasanaeth diduedd am ddim i drefnwyr cynadleddau, wedi bod yn gweithio ar y gynhadledd hon gyda’r trefnydd ers tair blynedd. Dwedodd y Rheolwr TĂ®m Faye Tanner: “Rydym wrth ein bodd y bydd y gynhadledd fawreddog hon yn cael ei chynnal ym mis Hydref 2021 fel y bwriadwyd, wrth i leoliadau a gwestyau yn y ddinas agor i groesawu digwyddiadau busnes yn dilyn cyfyngiadau’r pandemig”.

Diwedd

Mae tĂ®m Cwrdd yng Nghaerdydd yn uned sydd wedi’i lleoli yng Nghyngor Caerdydd sy’n hyrwyddo Caerdydd fel cyrchfan digwyddiadau busnes ac yn cynnig gwasanaeth am ddim i drefnwyr cynadleddau gan gynnwys canfod lleoliadau, dylunio rhaglen gynadledda ynghyd â gwasanaethau a chyflenwyr wrth gefn.

 

Rhagor o wybodaeth:
Faye Tanner
Cwrdd yng Nghaerdydd
hello@meetincardiff.com
T 029 2087 1846