Neidio i'r prif gynnwys

PAM DEWIS CAERDYDD AR GYFER EICH DIGWYDDIAD BUSNES?

Fel prifddinas Cymru, mae Caerdydd yn gartref i amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau o’r radd flaenaf sy’n cynnwys chwaraeon, y celfyddydau a diwylliant. Mae gan Gaerdydd enw da am gynnal digwyddiadau rhyngwladol yn rheolaidd, mae wedi hen arfer croesawu niferoedd mawr ac ymdrin â logisteg a diogelwch.

Caerdydd yw prifddinas ieuengaf Ewrop ac mae’n gartref i Senedd Cymru. Mae trefnwyr digwyddiadau busnes yn dewis Caerdydd oherwydd canol y ddinas a’r Bae bywiog, lleoliadau a gwestai busnes adnabyddus, tair prifysgol a sectorau diwydiant sy’n tyfu megis y gwyddorau bywyd, gwasanaethau ariannol a’r diwydiannau creadigol ond hefyd cwmnïau newydd cyffrous. Mae asedau treftadaeth a diwylliant Caerdydd hefyd yn ei gwneud yn ddinas y mae’n ‘rhaid ymweld â hi’. Mae’r ddinas yn wastad ac yn gryno gyda lleoliadau, llety ac atyniadau o fewn pellter cerdded.

Dyma 10 rheswm pam rydyn ni’n meddwl y dylech chi ddewis Caerdydd…

1. LLEOLIAD

Rydym mewn lleoliad ardderchog, hawdd cyrraedd ynddo a dydy’n ddim ond dwy awr yn y car o Lundain. Mae maes awyr rhyngwladol Caerdydd 25 munud yn unig o ganol y ddinas, ac mae cysylltiadau rheilffordd a bysiau. Mae hyn yn ei gwneud yn hawdd i chi gyrraedd yma, waeth o ble rydych chi’n teithio. Caerdydd yw’r brifddinas agosaf at Lundain, mae’n cymryd 110 munud ar y trên ac mae 56 trên yn mynd bob dydd. A phan gyrhaeddwch yma, mae mynd o gwmpas yn hawdd yn y ddinas gryno hon lle gellir cerdded bron i bobman.

2. LLEOLIADAU

Mae Caerdydd yn ddinas ar lan y dŵr ac mae portffolio o 70 o wahanol leoliadau ar draws y Ddinas a’r Bae. Mae gennym ddewis gwych o leoliadau: rhai traddodiadol, cyfoes neu rai ychydig yn wahanol. Darganfyddwch Gastell ysblennydd, amgueddfeydd arobryn neu stadiwm 74,500 sedd yng nghanol y ddinas. Neu beth am leoliad â hanes arbennig, canolfan ddiwylliannol neu ddewis ardderchog o leoliadau academaidd.

Prifysgolion

3. PRIFYSGOLION

Mae prifysgolion a sefydliadau addysgol yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn y farchnad gynadledda, gan ddarparu man cyfarfod hyblyg ochr yn ochr ag ymchwil ac arbenigwyr o safon ryngwladol eu meysydd. Yma yng Nghaerdydd rydym yn lwcus bod gennym dair prifysgol ragorol ar garreg ein drws. Mae Prifysgol Caerdydd, er enghraifft, yn cynnal ymchwil arloesol sy’n cael effaith fyd-eang; meysydd allweddol yn cynnwys Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.

4. LLETY

Yng Ngwesty Indigo, cewch lety cyfoes gydag elfen Gymreig neu leoliad trawiadol ar lan y dŵr yng Ngwesty a Sba Dewi Sant Voco. Neu mae Hilton Caerdydd yn edrych dros y Castell ac mae gwestai mwy traddodiadol â hanes i’w adrodd. Neu beth am y fflatiau â gwasanaeth, sy’n dod yn fwy a mwy poblogaidd neu leoliad gwledig gyda’i gastell ei hun yn y tiroedd, y gellir ei logi i’w ddefnyddio’n breifat.

5. MAE CAERDYDD YN DRA CHYSYLLTIEDIG!

Mae cysylltiad da yng Nghaerdydd ar sawl lefel. Gyda diddordeb cynyddol mewn digwyddiadau hybrid neu fyw, mae gwestai a lleoliadau Caerdydd yn gweithio gyda chyflenwyr i gynnal digwyddiadau busnes rhithwir yn y ddinas. Felly pa bynnag dechnoleg mae arnoch ei hangen, gallwch fod yn hyderus bod y seilwaith digidol ar waith.

6. CYNALIADWYEDD

Mae Caerdydd yn dilyn y nodau a bennwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) Llywodraeth Cymru. Fel etifeddiaeth digwyddiad “galw heibio” Ras Fôr Volvo yng Nghaerdydd yn 2018, mae’r ddinas yn cefnogi ymgyrch fyd-eang Clean Seas. Roedd Caerdydd yn un o ddinasoedd sefydlu Dinasoedd Bwyd Cynaliadwy’r DU.

7. SECTORAU DIWYDIANT ALLWEDDOL

Mae Caerdydd yn ddinas sy’n tyfu’n gyflym ac sy’n cael ei chydnabod am ei chryfderau, yn enwedig yn sectorau Cyllid a Gwasanaethau Proffesiynol, Technoleg, Diwydiannau Creadigol, y Gwyddorau Bywyd a Gweithgynhyrchu Blaengar. Yn wir, mae Caerdydd wedi’i rhestru fel lleoliad gorau ar gyfer ‘cwmnïau gasél’ yn y DU, sy’n cynnwys busnesau newydd deinamig. Mae Caerdydd ar Waith yn gweithio’n agos gyda thîm Cyfoethogi Caerdydd ac arweinwyr busnes Caerdydd.

8. MANNAU GWYRDD

Mae gan Gaerdydd fwy o fannau gwyrdd fesul person nag unrhyw ddinas graidd yn y DU, ni fyddwch chi fyth ymhell o barc neu ardd. Mae llawer o leoedd i fynd am dro braf, ddim ond munudau o’ch lleoliad cynadledda. Lleoliadau tawel, lle gallwch ganolbwyntio ar eich gwaith, yn agos at barciau canol y ddinas neu warchodfeydd natur y glannau. Gall cynrychiolwyr ganolbwyntio ar agenda’r cyfarfod ac yna mwynhau mannau agored gwyrdd ar gyfer sesiynau grwpiau llai, rhwydweithio a lluniaeth.

9. Y SIN FWYD

Mae sin fwyd Caerdydd yn ffynnu ond nid dim ond bara lawr, Cwrw Brains a chacennau cri sydd ynddi. Mae treftadaeth y ddinas fel porthladd rhyngwladol ffyniannus wedi creu dinas gosmopolitan, ac mae hyn i’w weld yn y dewis gwych o gaffis, bariau, bwytai a chynhyrchwyr bwyd lleol annibynnol ochr yn ochr â’r cadwyni mawr.

10. DIWYLLIANT

Mae diwylliant yn greiddiol yng Nghymru. Ein menter ddiweddaraf yw Dinas Gerdd Caerdydd sy’n arddangos operâu o safon ryngwladol, sin gerddoriaeth Gymraeg ffyniannus, jazz, llawer o wyliau a llawer mwy. Mae ein treftadaeth, ein diwylliant a’n hiaith yn gwneud Caerdydd yn wahanol iawn a gellir ymgorffori hynny mewn rhaglen gymdeithasol arbennig ar gyfer digwyddiad busnes.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch i gael y wybodaeth ddiweddaraf a newyddion y diwydiant gan dîm Cwrdd yng Nghaerdydd…